Rhwydweithiau
Ers mis Medi 2021, mae GwE wedi sefydlu rhwydweithiau lleol a rhanbarthol Cwricwlwm i Gymru, a hynny gan weithio ar y cyd ag ysgolion y rhanbarth. Mae mwy na 700 o ymarferwyr ysgolion yn gweithio gyda’r grwpiau canlynol:
- Dylunio Cwricwlwm
- Cynnydd ac Asesu
- Meysydd Dysgu a Phrofiad
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu (Cymraeg a Saesneg)
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Y Dyniaethau
- Iechyd a Lles
- Y Celfyddydau Mynegiannol
Bydd y Rhwydweithiau Cwricwlwm i Gymru yn gweithio mewn partneriaeth efo’r Athro Graham Donaldson, GwE a’r chwe Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru i:
- Gyfrannu at gynllunio, dylunio, a rhannu arferion cwricwlwm yn lleol ac yn rhanbarthol.
- Cydweithio â grŵp o gymheiriaid i gefnogi gwaith dylunio’r cwricwlwm ar lefel leol a chefnogi datblygiad MDaPh ar lefel ranbarthol.
- Cyfathrebu a rhannu’r dysgu a’r arferion llwyddiannus ar draws ysgolion yr awdurdod lleol.
- Cefnogi datblygiad rhaglen gyson a chynhwysol o Ddysgu Proffesiynol o safbwynt dylunio’r cwricwlwm ac asesu o fewn y MDaPh.
- Cyfrannu at ddatblygu modelau cynllunio a dylunio i gefnogi ysgolion wrth iddynt dreialu, gwerthuso a pharatoi’r gweithlu ar gyfer cyflwyno am y tro cyntaf.
- Sicrhau bod cydlynedd a chapasiti priodol i ddarparu adnoddau rhanbarthol o safon uchel yn y maes hwn.
- Cefnogi’r gwaith i ddatblygu Strategaeth Ranbarthol Gogledd Cymru.
Mae gwaith y rhwydweithiau yn gwbl gyson â’r disgwyliadau a nodir yn y ddogfen Cwricwlwm i Gymru: Y Daith i 2022 ac yn arddel egwyddorion datblygu ar y cyd, addysgeg ac ymgysylltu â dysgu proffesiynol ac arbenigedd.