Y Dyniaethau

Prosiect Cynnydd Cynradd

Roedd Dyniaethau 6 GwE yn brosiect dros flwyddyn gyda phump ysgol ar draws rhanbarth GwE yn edrych ar sut allai ysgolion gynllunio ar gyfer cynnydd ar draws eu hysgolion cynradd (bu'n rhaid i un ysgol dynnu allan). Roedd gennym gymysgedd o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, yn amrywio yn eu maint o ysgolion bach i rai mawr, mewn ardaloedd gwledig a threfol. Gofynnwyd i ysgolion ystyried cynnydd ar draws pedwar cam:

  1. Cynllunio,
  2. Cyflwyno neu addysgu,
  3. Effaith ar ddysgwyr; a
  4. Gwerthuso

Logo Ysgol Morswyn

Ysgol Morswyn, Ynys Môn

Aethant ati i gynllunio prosiect i ddathlu hanner canmlwyddiant hanes yr ysgol. Roedd y prosiect yn helpu dysgwyr i ganolbwyntio ar gysyniadau newid a pharhad a gofod a newid yn y dyniaethau. Bu'r disgyblion yn datblygu eu sgiliau ymchwil, yn mapio adeilad yr ysgol ac yn cynllunio dathliad.


Ysgol Chwilog, Gwynedd

Bu'r dysgwyr iau yn canolbwyntio ar Ddatganiad o'r Hyn sy'n Bwysig 5 drwy gymryd camau ystyrlon ac egwyddorol yn gysylltiedig â phryder disgyblion am sbwriel yn y moroedd. Roedd eu gwaith yn golygu mapio ac ymchwilio i effaith sbwriel. Ymchwiliodd y dysgwyr hŷn i drychineb y Titanic, gan ymchwilio i linellau amser a thrafod sut y dehonglwyd yr un digwyddiad hwnnw gan wahanol arsylwyr.


Ysgol Esgob Morgan, Ysgol Iau, Sir Ddinbych

Dyfarnwyd Gwobr Ysgol Noddfa i'r ysgol. Yn rhan o'r gwaith hwn, aeth y dysgwyr ati i wneud gwaith yn edrych ar ffoaduriaid, gwahaniaethu a rhagfarn. Bu modd i'r prosiect dynnu ar lensys Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, fel Hunaniaeth a Pherthyn, Taith Bywyd a Gwerthoedd a Moeseg.


Ysgol Bryn Deva, Sir y Fflint

Mae disgyblion ar draws yr ysgol wedi rhoi sylw i sut mae pobl yn ymwneud â'r gofodau a'r llefydd yr ydym ni'n byw. Mae dysgwyr wedi edrych ar y gwahanol lefydd a'r gofodau yr ydym ni'n byw ynddynt, boed yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol. Bu'r prosiect yn fodd i ddisgyblion edrych ar sut mae mapiau yn cynrychioli natur ffisegol a haniaethol y byd o'n cwmpas ni. 


Ysgol Acrefair, Wrecsam

Bu'r prosiect yn edrych ar sut mae disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o faterion yn ymwneud ag ansawdd, hunaniaeth a thegwch. Gyda'r pwyslais ar y ffaith nad oes pobl o'r tu allan yn eu hysgol, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn, aethpwyd ati i gynllunio profiadau yn tynnu ar sicrhau cynrychiolaeth o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau bywyd.

Ysgol Morswyn
 

Ysgol Chwilog