Resbiradaeth a’r System Resbiradol mewn Bodau Dynol

Ysgol – Ysgol Bro Idris
Oed – CA4
Pwnc – Gwyddoniaeth – Bywydeg
Iaith – Cymraeg a Saesneg
Amser i orffen y gwaith – 4-6 awr
Uned TGAU – U1

Disgrifiad

Casgliad o dasgau sy’n gofyn i ddisgyblion i ddiffinio geiriau allweddol, labelu diagramau, gosod brawddegau mewn trefn, cymharu resbiradaeth aerobig ac anaerobig ac i esbonio beth sy’n digwydd mewn model cloche ac arbrawf resbiradaeth mewn pys.

Mae’r awdur yn argymhell gwefannau http://www.tanio.cymru/ a https://www.bbc.co.uk/bitesize/guides/zs8nycw/revision/1, Wrth addysgu wyneb i wyneb, mae’r awdur yn defnyddio model cloche ac ymarferiad sy’n gofyn i’r disgyblion i ddal un llaw uwch eu pennau ac un i lawr ac yna i agor a chau eu dwylo mor gyflym â phosib mewn dau funud er mwyn cymharu effaith diffyg ocsigen i’r cyhyrau. Mae’r llaw sydd i fyny yn resbiradu’n anaerobig ac felly bydd yn dechrau llosgi.