Podlediad Cadernid Digidol
Mae’r podlediad Cadernid Digidol GwE bellach yn fyw. Gallwch wrando ar y podlediad yma neu drwy chwilio am ‘Cadernid Digidol’ ar eich platfformau podlediad arferol.
Pennod 1 – Camwybodaeth
Mae’r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau newyddion a digidol wedi rhoi mynediad rhwydd i ni at wybodaeth a chysylltiad ar unwaith â’r byd. Fodd bynnag, maen nhw hefyd wedi darparu gofod heb ei reoleiddio lle gall gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol ledaenu’n gyflym ac achosi niwed mawr. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei galw’n Gamwybodaeth.
Gyda bron i hanner y bobl yng Nghymru bellach yn dibynnu ar y cyfryngau cymdeithasol am eu newyddion, mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod llawer o wybodaeth anghywir ar-lein sy’n esgus bod yn wybodaeth gywir. Felly y tro nesaf y gwelwch chi stori newyddion, delwedd neu femyn ar-lein, cofio i stopiwch, meddyliwch a gwiriwch.
Pennod 2 – Bod yn driw i chi’ch hyn ar lein
Mae llawer ohonom yn croesawu poblogrwydd cynyddol y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n gyfle inni gadw mewn cysylltiad yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae dros 100 miliwn o luniau’n cael eu rhannu ar Instagram bob dydd, ond o ystyried pa mor hawdd yw golygu lluniau, weithiau gallwn deimlo dan bwysau i greu’r argraff orau o’n bywydau ar-lein.
Efallai y bydd y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi’r argraff bod bywyd yn berffaith i rai, ond cofiwch mai dim ond yr uchafbwyntiau welwch chi, nid y darlun cyflawn. Dyw bywyd go iawn ddim yn fêl i gyd.
Peidiwch â gadael i’r hidlydd eich twyllo. Byddwch yn driw i chi’ch hun ar-lein.