Model Dysgu Carlam – Cyfnod Sylfaen

Bwriedir i’r model Dysgu Carlam hwn eistedd o fewn eich model Dysgu Cyfunol, ac i chi ei ddefnyddio i roi hwb i sgiliau penodol, y rhai sydd eu hangen ar ddisgyblion i’w helpu i gael mynediad i’w dysgu yn gyflawn. Y bwriadyw i’r athro addysgu’r sgil yn yr ysgol gyntaf, fel gweithgaredd dan gyfarwyddyd, ac yna ei ymarfer a’i atgyfnerthu o fewn y ddarpariaeth wedi’i chyfoethogi a’r ddarpariaeth barhaus yn yr ysgol neu gartref, a hynny i hybu meistrolaeth annibynnol o’r sgil. Mae’r adrannau yn hyblyg, a gellid eu cyflwyno yn yr ysgol neu gartref drwy wneud mân addasiadau. Gallai’r dysgwyr hynny sydd gartref pob diwrnod eu defnyddio’n llawn hefyd. Gall yr athro wahaniaethu ac addasu lefel y sgil a newid y cyd-destun/testun am unrhyw beth arall perthnasol.
Mae angen i ddarpariaeth y Cyfnod Sylfaen ystyried:-
· Drwy arsylwi gellir nodi ac adnabod unrhyw oedi posibl mewn datblygiad neu anghenion dysgu ychwanegol.
· Gwahaniaethu’r ddarpariaeth a chefnogaeth yr oedolion o fewn y ddarpariaeth i gefnogi anghenion pob dysgwr.
· Cynllunio cymorth ac ymyrraeth ar gyfer sgil benodol sy’n dangos oedi mewn datblygiad.
· Bydd angen i’r sgiliau sydd angen eu targedu ddigwydd drwy brofiadau dysgu holistaidd.
· Mae’r arsylwadau yn bwydo’r cynllunio, gan gynnwys tasgau ffocws a addysgir yn yr ysgol o fewn y ddarpariaeth yn y dosbarth a thu allan a’u hymarfer gartref yn ymarferol gydag adnoddau bob dydd/ pecyn gan yr ysgol.
· Dylid modelu’r sgiliau a dargedir ar gyfer y dysgwyr a’r rhieni, er mwyn iddynt allu cwblhau’r gweithgareddau a anfonir gartref. Bydd y gweithgareddau ymarferol hyn yn atgyfnerthu’r sgil a dargedwyd er mwyn sicrhau dilyniant yn eu dysgu.
· Mae’r model dysgu carlam yn eistedd o fewn y model dysgu cyfunol. Gweler isod weithgareddau yn ôl côd lliw. Wedi’u huwcholeuo mewn melyn – yn yr ysgol a mewn brown – gartref. Dolen i’r model dysgu cyfunol