Ieithoedd Rhyngwladol – Sector Cynradd

Bwriad yr adran hon yw rhoi ystod o wybodaeth, arweiniad, cyfleoedd ac adnoddau i ysgolion cynradd i’w helpu wrth iddynt ddatblygu eu taith tuag at gorffori Ieithoedd Rhyngwladol yn eu cwricwlwm. Os hoffech wneud cais am ychwanegu adran neilltuol, neu os hoffech gyfrannu at yr adran hon drwy rannu rhai o’ch arferion mwyaf llwyddiannus chi, yna mae croeso i chi gysylltu â Thîm Dyfodol Byd-eang GwE: stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru

Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol

Cwrs y Brifysgol Agored

Cyfle i ddysgu iaith ryngwladol, a chael hyfforddiant i gyflwyno ieithoedd mewn ysgolion cynradd drwy’r Brifysgol Agored. Yma, ceir yr holl wybodaeth am y cwrs. Am fwy o wybodaeth a dogfennau cofrestru cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru erbyn mis Medi.

Cerdd Iaith
Dull creadigol o addysgu ieithoedd (British Council Cymru). Defnyddio Cerdd a Drama i addysgu Cymraeg a Sbaeneg. Prosiect gan British Council Cymru yw Cerdd Iaith gyda’r nod o gynnig gwefan sy’n cynnwys yr holl wersi a’r addysgeg.  

Cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru am gyrsiau hyfforddiant a gwybodaeth am gyllid.

Cliciwch yma i ymweld a safle we Cerdd Iaith

Ysgolion Power Language
Llwyfan ar-lein yw adnoddau Ysgolion Power Language ar gyfer athrawon arbenigol ac anarbenigol o’r Cyfnod Sylfaen ymlaen, a darperir pob cymorth. Mae’r adnoddau hyn yn fodd i athrawon wreiddio’r iaith darged yn eu cyd-destunau dysgu, megis Iechyd a Lles, Llythrennedd, Rhifedd, Astudiaethau Cymdeithasol, Gwyddoniaeth ac ati…

Cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru am ragor o wybodaeth a chyfleoedd am gyllid.

Dolen i  Ysgolion Power Language:

https://powerlanguage.school

  • Pecynnau Adnoddau i gefnogi’r gwaith o ddysgu ac addysgu IRh mewn ffyrdd trawsgwricwlaidd.
  • Fideos, animeiddiadau a dogfennau gwreiddiol.
  • Ymdrin â meysydd cwricwlaidd fel Iechyd a Lles, Hanes, Daearyddiaeth, Llythrennedd, Rhifedd, Celfyddydau Mynegiannol a Gwyddoniaeth.

Fideos enghreifftiol – https://powerlanguage.school/resource-packs/

Gweminar Power Language: Paratoi am y cwricwlwm newydd – 02/12/2020:

Cyflwyniad

Cynllunwyr ac Adnoddau Cysylltiedig

Adnoddau ymatebol

Casgliad

Dolenni i Sefydliadau Iaith defnyddiol
Mae tîm Dyfodol Byd-eang GwE yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o bartneriaid.
Mae’r gwahanol sefydliadau yn cynnig pob math o gyfleoedd hyfforddiant a mynediad i adnoddau. Gallwch gofrestru am eu newyddlenni er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybod am y digwyddiadau diweddaraf.

Routes Into Languages Cymru

Institut Français

Goethe Institute

Conserejía Española

Confucius Institute

The British Council

Linguascope

Association for Language Learning

Deunyddiau hyfforddiant
Dros y blynyddoedd diwethaf gwahoddwyd siaradwyr gwadd i gyflwyno sesiynau hyfforddiant i athrawon cynradd yn GwE. Ceir y cyflwyniadau a’r deunyddiau ar Hwb ITM GwE (Sue Cave, Vicky Cooke, Primary Languages Network, Power Language…)

Byddwch angen bod wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi cofrestru i rwydwaith ieithoedd tranmor GwE ar Hwb i weld yr adnoddau. Cliciwch yma.

Dysgu Proffesiynol Dyfodol Byd-eang GwE: Ieithoedd Rhyngwladol / ITM paratoi am y CiG

Diffinio’r cwricwlwm ieithoedd

Manylion: Adnabod elfennau craidd dysgu ac addysgu iaith ac ystyried sut i roi trefn arnynt er mwyn creu cwricwlwm ieithoedd ystyrlon.

Sector cynradd ac uwchradd

20/01/2022
Siaradwr gwadd: Rachel Hawkes
Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust

 

 

Egwyddorion Dysgu ac Addysgu ac Enghreifftiau Ymarfeol
Gwaith ymchwil mewn Ieithoedd yn y Cynradd: Mae Dr Alison Porter (Teacher Education Toolkit) a chyd-weithwyr wedi cytuno’n garedig iawn i rannu â ni adnoddau rhagorol, clir a chryno sydd yn amlinellu prif egwyddorion dysgu ac addysgu iaith Ryngwladol yn y sector cynradd.

Mae bob adran yn canolbwyntio ar 3 prif egwyddor, ac yn cynnwys ystod o fideos gan ymarferwyr sy’n rhannu eu gwaith yn y dosbarth. Mae hefyd dasg ddarllen ymchwil ac ymarfer.

Cewch sampl o’r adnoddau yn yr adran hon. I gael mynediad i’r set gyfan am ddim, cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru

Dysgu ac Addysgu : Cymorth ac Awgrymiadau Addysgeg

Integreiddio Ieithoedd Rhyngwladol yn y Cwricwlwm Cynradd: Pecyn Cychwynnol Ysgolion Arweiniol GwE

Amrywiaeth o fideos byr a grëwyd gan ein hysgolion Arweiniol ar ystod o gwestiynau am ddysgu Ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion cynradd a sut y dechreuon nhw eu taith i wireddu’r CiG.

Fideo 1

Map Ffordd Clir a Chryno i Gorffori Ieithoedd Rhyngwladol – Lisa Eardley- Ysgol Deganwy, Danae Graham- Ysgol Bryn Deva

Dyma ganllaw cam wrth gam i unrhyw ysgol neu ymarferydd gychwyn ar y daith at gorffori iaith ryngwladol yn y dosbarth. Mae amrywiaeth o enghreifftiau, dulliau dibynadwy ac amrywiaeth o syniadau syml i chi eu dilyn i gychwyn arni ac ennyn diddordeb eich disgyblion a’u cael nhw i ddysgu heb iddynt sylweddoli hynny!

Fideo 2

Ffrangeg ar draws y cwricwlwm – Claire Thompson- Ysgol Golftyn CP School

Mae’r cyflwyniad hwn yn disgrifio fy nhaith i, gyda fy nosbarth Blwyddyn 2, at blethu Ffrangeg drwy’r cwricwlwm. Rwyf wedi amlinellu’r pedwar cam a ddilynais i gyflawni hyn. Rydw i hefyd wedi cysylltu’r pedwar cam â’r testun ‘Out of this World’, gan ‘mod i eisiau rhannu rhai enghreifftiau penodol o weithgareddau. Yn fwy na hynny, rydw i wedi pwysleisio’r ffaith mai dechrau siarad Ffrangeg ydw i, felly os alla’ i wneud, gallwch chithau hefyd!

Fideo 3

Gwreiddio ieithoedd yn y cwricwlwm – Georgina Newnham – St Brigid’s School

Mae’r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar egwyddorion ac arferion yr addysgeg bresennol y gellir ei defnyddio i addysgu ieithoedd. Mae’n edrych hefyd ar fethodolegau, llafaredd a defnyddio adnoddau gwreiddiol.

Fideo 4

Datblygu hyder mewn addysgu iaith ryngwladol yn yr ysgol gynradd – Carole Seaton – Victoria CP School

Dyma rai dulliau yr ydw i wedi’u defnyddio i ddechrau dysgu iaith ryngwladol yn fy ysgol i. Rydw i wedi disgrifio rhai o’r ffyrdd y gallwch chi gymell staff a phlant i gofleidio diwylliant newydd a’i iaith. Rydw i wedi cyflwyno rhywfaint o waith cynllunio a syniadau i chi gael cychwyn arni a gwneud bywyd mor hawdd â phosibl i chi a’ch cydweithwyr gael dechrau ar eich taith iaith.

Fideo 5

Ymgorffori Llafaredd ag Ieithoedd Ychwnaegol mewn Dosbarth Cynradd – Angharad Lloyd – Ysgol Clawdd Offa

Cyflwyniad am gorffori llafaredd gydag iaith ychwanegol yn y dosbarth. Ceir enghreifftiau o sut yr addysgir llafaredd yn Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn, p’un ai yw llafaredd yn ffocws y wers ai peidio, ac awgrymiadau am sut i gynnwys llafaredd mewn gwersi.

Fideo 6

Datblygu amlieithrwydd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru – Esyllt Williams Ysgol Beddgelert, Julie Williams Ysgol Tudweiliog

Cyflwyniad ar sut i ddatblygu iaith dramor o fewn y dosbarth.Esiamplau o awaliau arddangos, gemau , gweithgareddau, ymweliadau a thasgau posib wrth ddefnyddio aml iaith.

 

Fideo 7

Mae’r cyflwyniad yn cynnwys y math o bethau y gellir eu gwneud wrth gyflwyno a datblygu iethoedd rhyngwladol trwy feysydd eraill. Mae llyfr allan o’r pecyn iechyd a lles, ‘Sut ydw i’n teimlo’ wedi cael ei ddefnyddio fel sail i waith posibl.

 

Ysgol Beddgelert
Fideo yn dangos sut mae’r ysgol wedi dysgu sut i wreiddio Ieithoedd.

 

Ysgol Golftyn
Cyflwyniad Adobe Spark i gychwyn taith yr ysgol yn cyflwyno IRh.

Ysgol Bryn Deva
Ffrangeg a Pum Ffordd at Les
Diwrnod MDaPh i’r myfyrwyr CaBan

Fideo byr i egluro sut rydym ni fel ysgol wedi gwreiddio Ffrangeg yn ein cwricwlwm gyda chysylltiadau cryf ag agwedd ‘Dal ati i Ddysgu’ y Pum Ffordd at Les. Fel ysgol rydym i gyd bron yn ddechreuwyr yn yr iaith, ac mae hyn yn cyd-fynd ag arwyddair ein hysgol – ‘Dysgu Gyda’n Gilydd am Byth’.

 

J’aime les fruits- Ysgol Bryn Deva
Dros gyfnod o bythefnos dysgodd y plant enwau’r ffrwythau gwahanol yn Ffrangeg. Gwnaethant luniau o ffrwythau a’u labelu yn Ffrangeg. Fe wnaethant ymarfer canu’r gân gyda’i gilydd gan roi pwrpas a chyd-destun go iawn i’w dysgu. Cafodd y plant i gyd lawer o hwyl!
Gweminar Haf EAS 2021: Corffori Ieithoedd Rhyngwladol yn y Cwricwlwm
 

CYFRES GWEMINARAU HAF EAS 2021

Gweminar Ieithoedd Rhyngwladol EAS 1:
DATBLYGU IEITHOEDD RHYNGWLADOL – 01/07/2021

Cyflwyniadau gan ysgolion cynradd Brynbach a Clytha, yn dangos sut maent wrthi’n datblygu Ieithoedd Rhyngwladol yn eu hysgolion.

 

Gweminar Ieithoedd Rhyngwladol EAS 2:
DULLIAU YMARFEROL A DIDDOROL I GORFFORI IRh YN Y CYNRADD – 07/07/2021

Cyflwyniadau gan Ysgol Eglwys yng Nghymru Ponthir, Ysgol Millbrook ac Ysgol Eglwys yng Nghymru Osbaston, yn dangos sut maent yn datblygu Ieithoedd Rhyngwladol drwy ddulliau ymarferol a diddorol.

 

Gweminar Ieithoedd Rhyngwladol EAS 3:
DULL GWEITHREDU AMLIEITHOG WRTH GYFLWYNO IRh A PHONTIO EFFEITHIOL – 13/07/2021

Cyflwyniadau gan Ysgol Gynradd St Gwladys, Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Osbaston ac Ysgol Gyfun Trefynwy, yn dangos sut maent yn defnyddio dull gweithredu amlieithog a phontio effeithiol ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol.
Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig [CLIL] yn yr Ystafell Ddosbarth Gynradd: Enghreifftiau Ymarferol ar Waith
Wrth i athrawon cynradd weithio’n galed i gorffori dysgu iaith mewn cwricwlwm cynradd gorlawn, mae’n hanfodol ein bod ni’n edrych ar ffyrdd dychmygol i gyfoethogi dysgu iaith. Mae’r dull Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig (CLIL) wedi gwreiddio’n dda mewn amryw o wledydd eraill. Mae angen i ni ddysgu ganddynt. Yn y sesiwn, byddwn yn rhannu enghreifftiau ymarferol mewn Sbaeneg o’r pethau yr ydym wedi rhoi cynnig arnynt yn ysgolion Hackney. Cyflwynir gan Bernadette Clinton, sydd wrthi’n gweithredu’r fenter ‘Sbaeneg fel Iaith Gyntaf’ ar draws holl ysgolion Hackney ar gyfer Hackney Education. Mae hi hefyd yn dysgu ar y cyrsiau TAR cynradd a BA Add ym Mhrifysgol Middlesex ac yn Llysgennad Ysgolion y Cyngor Prydeinig. A Raquel Tola Rego, sydd yn dysgu yn Ysgol Gynradd Parkwood yn Hackney, oedd yn allweddol yn yr ysgol drwy lwyddo i ennill statws Ysgol Sbaeneg Ryngwladol ac mae hi wedi arloesi gyda’r dull CLIL yn ei hysgol ei hun ac ar draws Hackney. Mae hi hefyd yn Ymgynghorydd ac yn Llysgennad Ysgolion y Cyngor Prydeinig.
Weminar: PowerLanguage gwreiddio ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm: COP 26 - 22/11/2021
Cewch archwilio syniadau newydd o Tîm PowerLanguage gan gynnwys adnoddau newydd sy’n gysylltiedig â COP 26!

Does dim ots beth yw eich arbenigedd ieithyddol parthed addysgu iaith ryngwladol neu ail iaith, bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn gyfle i arddangos sut y medr adnoddau PowerLanguage roi arweiniad a chefnogaeth i chi bob cam o’r daith er mwyn eich galluogi chi i gynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu ieithoedd rhyngwladol yn eich hysgolion yn hyderus.
Gweminar Power Language: Chwefror 2021: Yr Hen Aifft
 

Dolen i webinar ac adnoddau Power Language:  Yr Hen Aifft

Adnoddau

Dosbarthiadau Meistr PLN: ystod o ddosbarthiadau tiwtorial yn rhoi sylw i  amrywiol dechnegau a syniadau ar gyfer defnyddio Ieithoedd yn greadigol yn yr ysgol. –  Cliciwch yma i weld yr adnoddau.

Gweminar Power Language: 05/05/2022 - Elizabeth II - Jiwbilî'r Frenhines, Iechyd a Lles
 

Defnyddio llwyfan Power Language, edrych ar ffyrdd o wreiddio ieithoedd yn y cwricwlwm, syniadau ymarferol i gynllunio ar gyfer cynnydd a dyfnhau’r dysgu: Cyd-destunau – Elizabeth II- Jiwbilî’r Frenhines, Iechyd a Lles.

 

Adnoddau 

 

 

 

 

Gweminar: Institut Français - 23/5/2022 - Dysgu ac addysgu iaith: addysgeg a chynllunio ar gyfer CiG
 

Cyfle i edrych ar y prosiect Ffrangeg cynradd: Ffrangeg fydd yr adnoddau a’r enghraifft a rennir ond bydd y prif egwyddorion yn berthnasol i bob iaith.

  • edrych ar yr adnoddau parod a rhad ac am ddim cynhwysfawr iawn a sut i’w defnyddio mewn gwahanol ffyrdd i weddu i’r ysgol a’i hymarferwyr.
  • mynd dros addysgu iaith, y dull trawsieithu newydd, edrych ar eirdarddriad a sut mae ieithoedd yn ein cysylltu ni yn ogystal ag ystyried sgiliau trosglwyddadwy, cynnydd a phontio.
Trafod Addysgeg: Ieithoedd Rhyngwladol
Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio ar y dulliau pedagogaidd i gefnogi cyflwyno ieithoedd rhyngwladol.

Os ydych yn aelod o ‘Trafod Addysgeg’ byddwch yn cael gwahoddiadau i’r sesiynau hyn yn awtomatig.

Neu cliciwch yma i ymuno â Trafod Addysgeg.

Os na allwch fynychu sesiwn, caiff ei recordio a’i lanlwytho i’r tîm Trafod Addysgeg yn y sianel briodol neu gysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru.

Pontio i'r Cwricwlwm i Gymru - Gillian Campbell-Thow a Rachel Hawkes
 


DIFFINIO’R CWRICWLWM IEITHOEDD

Manylion: Adnabod elfennau craidd dysgu ac addysgu iaith ac ystyried sut i roi trefn arnynt er mwyn creu cwricwlwm ieithoedd ystyrlon.

Sector cynradd ac uwchradd.

20.01.2022
Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes
Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y   Comberton Academy Trust.

 

 

GWYBODAETH GLIR AC ARFERION YSTYRLON

Manylion: Mae cyflwyno gwybodaeth glir yn sicrhau chwarae teg i bawb, ac mae arferion ystyrlon yn gwneud i’r iaith gydio.

Sector cynradd ac uwchradd.

 

17/02/2022
Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes
Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust.

 


RHAN 1

 

RHAN 2

 

 

 

TROSGLWYDDO: SUT I SICRHAU PARHAD A CHYNNYDD

Sector cynradd ac uwchradd

10.03.2022
Siaradwr Gwadd: Gillian Campbell-Thow
Swyddog Gwella Ieithoedd Modern / Arweinydd Strategol dysgu ac addysgu Iaith ac addysg trwy gyfrwng y Gaeleg yn yr Alban

 

 

GEIRFA: EHANGDER A DYFNDER

Manylion: Beth mae’n ei olygu i wybod gair?
Edrych ar weithgareddau i ddatblygu ehangder a dyfnder gwybodaeth eiriol.
(Ni fydd rhai o’r agweddau ar ddyfnder gwybodaeth eirfaol yn rhan o faes gwybodaeth y cynradd, ond bydd y sesiwn yn helpu i ddeall y darlun ehangach).

Sector cynradd ac uwchradd

 

17/03/2022
Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes
Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y   Comberton Academy Trust.

 

 

 

Gweminar Power Language: 16/6/2022 - Richard Tallaron a Nadine Fraize - Rhifedd; Trydan
 

Defnyddio llwyfan Power Language, edrych ar ffyrdd o wreiddio ieithoedd yn y cwricwlwm, syniadau ymarferol i gynllunio ar gyfer cynnydd a dyfnhau’r dysgu: Cyd-destunau – Rhifedd, Trydan

 

Datblygu Amlieithrwydd
Mae dolenni isod at amrywiol adnoddau ymarferol a deunyddiau darllen ar amlieithrwydd yn y dosbarth a’r gymuned. Ar gyfer ysgolion uwchradd yn bennaf y mae’r adnoddau hyn, ond mae rhai yn berthnasol i’r cynradd hefyd.

Adnoddau

Dolen i rwydwaith Hwb ITM GwE
Ymunwch â rhwydwaith Hwb ITM GwE ble ceir adnoddau defnyddiol i’r Cynradd. 

Cliciwch yma i ymuno â’r rhwydwaith. Bydd rhaid i chi fewngofnodi i Hwb ac ymuno gyad’r rhwydwaith er mwyn gweld yr adnoddau.

Proseictau codi ymwybyddiaeth o iaith
Prosiect pontio a ddatblygwyd a’i dreialu yn 2017 gan Ysgol Dyffryn Conwy a’i hysgolion cynradd sy’n bwydo, gyda ffocws ar strategaethau dysgu Iaith ac ymwybyddiaeth o Iaith. Deunyddiau sy’n barod i’w defnyddio a nodiadau i’r athro.

Cliciwch yma i weld yr adnoddau.

Siop-un-stop ar gyfer adnoddau Ffrangeg
Pecyn Cychwynnol Sylfaenol ar gyfer Adnoddau Ffrangeg

Dyma ddetholiad o weithgareddau i helpu plant ymarfer, dysgu, corffori, ymestyn a mwynhau dysgu Iaith Ryngwladol.

Mae cardiau fflach, matiau geiriau, gemau, caneuon, cyfleoedd i chwarae rhan a chyfle hefyd i blant ymestyn eu dealltwriaeth drwy greu eu hadnoddau eu hunain.

 

Datblygu Amlieithrwydd
Mae dolenni isod at amrywiol adnoddau ymarferol a deunyddiau darllen ar amlieithrwydd yn y dosbarth a’r gymuned. Ar gyfer ysgolion uwchradd yn bennaf y mae’r adnoddau hyn, ond mae rhai yn berthnasol i’r cynradd hefyd.

Tîm Dyfodol Byd-eang GwE

Tîm Dyfodol Byd-eang GwE

DYFODOL BYD-EANG GwE IEITHOEDD RHYNGWLADOL

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Dyfodol Byd-eang ac ymrwymiad i ehangu addysgu Ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion yng Nghymru. Y weledigaeth yw i Gymru ddod yn genedl gwirioneddol amlieithog.  Bydd y  Cwricwlwm i Gymru yn gweddnewid ein cyfundrefn addysg ac yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ddysgu iaith ar draws ein holl ysgolion a’n lleoliadau.

Nod y rhaglen yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael profiad o’r amryw o fanteision a ddaw wrth ddysgu Ieithoedd Rhyngwladol, gan gynnwys ehangu eu gorwelion trwy ddysgu am bobl a diwylliannau eraill a rhoi iddynt y sgiliau iaith i gystadlu yn yr economi fyd-eang.  Wrth wneud hyn, gallwn eu cefnogi wrth iddynt ddatblygu yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd. 

Y prif strategaeth yw  rhoi ein hamser, ein gwybodaeth a’n harbenigedd i’n hysgolion a’n hathrawon er mwyn cefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd wrth ddysgu iaith, yn ogystal â  chyflawni pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. 

 

Mae’r cynllun tair blynedd newydd ar gyfer 2022-2025 yn gosod allan dri nod strategol: 

 

  • cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol ystyrlon yng Nghymru

  • rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiadau i’n hymarferwyr i gynllunio a chyflwyno darpariaeth ieithoedd rhyngwladol
  • herio’r camdybiaethau o ran dysgu ieithoedd

 

Braint yw parhau yn fy rôl fel Arweinydd Dyfodol Byd-eang a Ieithoedd Rhyngwladol Consortiwm GwE yn y cyfnod newydd a chyffrous hwn.

Yma yng ngogledd Cymru, mae ein hathrawon ITM a’n cyd-weithwyr cynradd yn ymroddgar ac yn hynod dalentog, wastad yn gwneud eu gorau glas i roi’r profiadau dysgu gorau i’w myfyrwyr.

Dyna pam yr wyf i’n ffyddiog y gallwn ni, ac y byddwn ni, gyda’n gilydd, yn parhau i ddatblygu ein gwaith er mwyn hyrwyddo a darparu’r profiadau dysgu iaith gorau un i ddysgwyr.

Rwy’n ffodus iawn o gael tîm anhygoel o fy nghwmpas yn y sector cynradd a’r uwchradd. Gyda’n partneriaid Dyfodol Byd-eang gallwn ddarparu ystod eang a rhaglen gyfoethog o gefnogaeth a chyfleoedd i ddysgwyr, ymarferwyr a lleoliadau ysgol. 

O ddysgu proffesiynol i gymorth ysgol i ysgol pwrpasol, mae ein gwaith yn cyfrannu at ddatblygiadau Cwricwlwm i Gymru.

Dylai Canolfan Cefnogaeth GwE, y newyddlenni bob hanner tymor, y negeseuon e-bost, Bwletin GwE a Twitter roi’r rhan fwyaf o wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y datblygiadau newydd mewn Ieithoedd Rhyngwladol yn GwE.

Ond cofiwch, mae croeso i chi gysylltu â mi a Thîm Dyfodol Byd-eang cynradd neu uwchradd GwE unrhyw bryd am fwy o fanylion neu i ofyn cwestiwn. Byddwn bob amser yn barod i helpu. 

Dymuniadau gorau, 

Stephanie Ellis-Williams: Arweinydd ITM Dyfodol Byd-eang/Ieithoedd Rhyngwladol GwE

stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru

Newyddlenni
Mae tîm Dyfodol Byd-eang GwE yn cyhoeddi newyddlen bob hanner tymor. Fe’i cyhoeddir ar Fwletin GwE ac ar y dudalen ITM ar wefan GwE. Cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru os hoffech i’r Newyddlen gael ei hanfon atoch yn uniongyrchol.

Cliciwch yma i weld y newyddlenni.

Partneriaid Dyfodol Byd-eang
Mae tîm Dyfodol Byd-eang GwE yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o bartneriaid.
Mae’r gwahanol sefydliadau yn cynnig pob math o gyfleoedd hyfforddiant a mynediad i adnoddau. Gallwch gofrestru am eu newyddlenni er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybod am y digwyddiadau diweddaraf.

Routes Into Languages Cymru

Institut Français

Goethe Institute

Conserejía Española

Confucius Institute

The British Council

Linguascope

Association for Language Learning

Mentora ITM