Esiamplau o weithgareddau Dysgu Cyfunol – Cyfnod Sylfaen
Dylid dilyn y canllawiau gweithredol ac asesiad risg yr ysgol wrth gynllunio a chyflwyno gweithgareddau.
Cyfeiriwch at y ddogfen ystyriaethau cyfnod sylfaen am ganllawiau pellach.
Mae’r rhain yn enghreifftiau o weithgareddau ffocws a rhai o fewn y ddarpariaeth wedi’i chyfoethogi. Dylid cadw’r tasgau ffocws yn fyr gyda chyfleoedd i ail-adrodd. (10 - 15 munud Meithrin a Derbyn / 15 - 20 munud Bl1 a Bl2). Sicrhewch bod darpariaeth barhaus ar gael.

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i'w ehangu.
Yn yr ysgol
Yn y cartref
Blwyddyn 1 a 2 - Yn y cartref (Clipiau fideo)
Dylid darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer yr holl weithgareddau sy’n cael eu gyrru adref, oni bai eu bod yn hunan-eglurhaol. Rydym wedi enghreifftio rhai ohonynt isod.
TASGAU I YMARFER SGILIAU SYDD WEDI'U CYFLWYNO YN YR YSGOL
CREU FFON FEDR - Ewch i greu ffon fetr ei hunain, marciwch bob yn 10cm gyda tâp. Defnyddiwch ffon fetr i chwilio am bethau sy’n hirach/fyrrach/tua yr un maint ag un metr yn yr amgylchedd.
GÊM TAFLU DROS Y FRAICH - Pwy all daflu bellaf? Dewisiwch gwrthrych i’w daflu a mesurwch y pellter.
GÊM CHARADES - disgrifiwch gymeriad a’r hyn mae’n ei wneud. Pa ran o’r stori sy’n cael ei ddisgrifio?
AIL-GREU CLAWR - Beth am ail-greu clawr eich hoff lyfr/hoff stori?
https://app.seesaw.me/pages/shared_activity?share_token=uxG_Xzs8R2STLT8qGg-XNw&prompt_id=prompt.f92854e3-6e60-4464-9784-1d4a612ebd0b
TAITH BRIGYN - Ewch am dro, dewiswch frigyn ac ychwanegwch wrthrychau ar eich brigyn gan ddisgrifio’ch taith.
CREU MAP STORI - Dewiswch eich hoff stori. Ewch ati i greu map stori neu defnyddiwch ddarnau rhydd, ail-adroddwch y stori/rhan o’r stori gan ei recordio.
CYFLEU TEIMLADAU - Defnyddiwch ddarnau rhydd i gyfleu eich teimladau ac i sgwrsio gyda’ch teulu.
CREU 'MOBILE' NATUR - Ewch ati i greu mobile brigau. Mesurwch bob yn 10cm er mwyn sicrhau yr un faint o ofod rhwng y gwrthyrchau.
CORFFOROL A CHREADIGOL
CASGLU GWRTHRYCHAU - Mesurwch a gosodwch wahanol wrthrychau 1m o’i gilydd. Rhowch farciwr fel man cychwyn. Cewch ddewis e.e. sgipio, hercian, rhedeg a nôl pob un gwrthrych un ar y tro, rhedeg yn ôl i’r man cychwyn gan eu rhoi yn y fasged.
CREU MWGWD - Dewiswch gymeriad o’r stori ‘Yr Hugan Fach Goch’ a chreu mwgwd ar gyfer ei wisgo i actio’r stori. Mesurwch o amgylch eich pen.
CREU FFRAM FRIGAU - Be am fynd ati i greu ffrâm allan o frigau? Beth welwch chi o fewn eich ffrâm chi? Gallwch ddewis rhoi llun camera/llun yr ydych wedi ei greu/collage darnau rhydd yn eich ffrâm.
DAWNS Y DAIL - Dawns y dail. Allwch chi greu eich dawns eich hunain? Beth am wrando a dawnsio i’r gân sydd ar Cyw?
Meithrin a Derbyn - Yn y cartref (Clipiau fideo)
Dylid darparu cyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer yr holl weithgareddau sy’n cael eu gyrru adref, oni bai eu bod yn hunan-eglurhaol. Rydym wedi enghreifftio rhai ohonynt isod.
TASGAU I YMARFER SGILIAU SYDD WEDI'U CYFLWYNO YN YR YSGOL
CANU A SYMUD - Ymarfer y gân efo symudiadau'r dwylo a'r corff, tu fewn a thu allan.
CYFRI HYD AT 5 NEU 10 - Darparu pecyn o wrthrychau i ymarfer cyfrif hyd at 5 neu 10, un yn fwy ac un yn llai. Rhoi taflen gyfarwyddiadau.
NEWID GEIRIAU RHIGWM - Newid y geiriau i’r rhigwm.. Dewis gwrthrych neu degan neu anifail sydd yn gwneud sŵn a newid y geiriau i'r gân.
DYFALU'R ANIFAIL - Dyfalu beth yw'r anifail. Disgrifio lluniau gwahanol anifeiliaid heb ddweud enw'r anifail.
GWNEUD LLYN - Gwneud llyn i’r hwyaid nofio ynddo. Gellir defnyddio hwn ar gyda hwyaid a wnaed mewn gweithgareddau creadigol er mwyn ymarfer cyfrif.
CORFFOROL A CHREADIGOL
SYMUD FEL HWYADEN - Symud fel hwyaden - chwifio'r breichiau, plygu'r penliniau, ysgwyd y pen ôl, plygu'r pengliniau ychydig, traed allan. Ychwanegu'r symudiadau i’r rhigwm pan fydd y plentyn wedi'i chofio yn dda iawn. Canu'r gân efo'r symudiadau a llwytho'r fideo ar y llwyfan dysgu.
CREU PYPED - Gwneud hwyaden byped efo hosan. Gan roi'r llaw tu mewn i'r pyped, ymarfer canu'r gân neu gael sgwrs efo ffrind pyped arall.
DILYN YR ARWEINYDD - Chwarae dilyn yr arweinydd gartref efo teulu a ffrindiau - bydd angen cyfarwyddiadau ar fideo. (Gweler y fideo a wnaed yn yr ysgol)
CREU NYTH - Creu nyth gan ddefnyddio unrhyw ddefnyddiau e.e. tyweli, sanau neu yn yr awyr agored gan ddefnyddio brigau, mwd, dail a cherrig ar gyfer nifer penodol o hwyaid e.e. 4 nyth ar gyfer 4 hwyaden.
GWNEUD HWYAID BACH - Gwneud hwyaid bach gan ddefnyddio deunyddiau ailgylchu pob dydd e.e. bocs wyau wedi'i dorri, a rhoi adenydd a phig o gerdyn yn sownd. Defnyddio’r rhain efo’r weithgaredd clai i ymarfer cyfrif a dweud y rhigwm.
CANU RHIGWM - Canu’r rhigwm gyda llais cryf a llais tawel. Dal ati i ymarfer cadw curiad cyson e.e. cwac, cwac, cwac h.y. 1, 2, 3 1, 2, 3. Allwch chi gyflymu ac arafu? Cadw curiad cyson. Meddwl am anifeiliaid eraill a'r synau a wnânt, a newid geiriau'r gân a'r sŵn i wneud penillion newydd i'r gân.
CYFRI GWRTHRYCHAU - Casglu gwrthrychau - teganau/ anoddau yn y cartref hyd at 5 neu 10 gwrthrych. Ymarfer cyfri y nifer o wrthrychau. Pan yn barod, ymarfer dweud un yn fwy/ un yn llai gan ddweud y rhif.
LLITHREN DDWR - Creu llithren ar gyfer yr hwyaid bach. Cofiwch ei wneud mor llithrith a sydd phosib.