Cymharu Datblygiad

Ysgol – Ysgol Botwnnog
Oed – CA3
Iaith – Cymraeg
Amser i orffen y gwaith – 1-3 awr
MDPh – Dyniaethau

Disgrifiad
Tasg a gafodd ei chwblhau dros dwy wers yw hon yn dilyn themau Datblygiad. Y syniad yw cymharu datblygiad Ghana gyda i fyny at bedair gwlad arall, er gellir addasu hyn. Mae’n rhoi’r cyfle i’r disgyblion ddewis dangosyddion datblygiad eu hunain ynghyd a’r gwledydd y maent eu cymharu. Mae’r Pwynt Pwer cyntaf yn eu harwain drwy’r broses hyn. Mae’r daenlen yna yn eu galluogi i osod y wybodaeth allan mewn modd y gellir ei graffio. Mae’r ail gyflwyniad yn mynd ati i egluro sut i ysgrifenu adroddiad ar eu canfyddiadau. Mae’r deunudd fel ag y mae wedi’i anelu at set 1 blwyddyn 9, rhoddwyd mwy o arweiniad i’r setiau is yn ystod y gwersi byw.

Sgilau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Datblygu geirfa,
Strategaethau darllen,
Deall, ymateb a dadansoddi,
Gofyn cwestiynau,
Geirfa, sillafu, gramadeg,

Rhifedd
Dealltwriaeth gysyniadol,
Rhesymu rhesymegol,
Perthnasoedd yn y system rif,
Casglu data,
Cynrychioli data,
Dehongli data,

Digidol
Cyfathrebu,
Cyfnewid a rhannu gwybodaeth,
Cyrchu, chwilio a chynllunio cynnwys digidol,
Creu cynnwys digidol,