Chwaraeon Cymru

Ysgol – Ysgol Uwchradd Tywyn, Meirionnydd, Gwynedd
Oed– Blwyddyn 10 ac 11
Iaith – Cymraeg a Saesneg

Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 4-6 awr
Teitl yr adnodd –  Chwaraeon Cymru (Cynllun yr athro/athrawes) / Welsh Sport

Disgrifiad o’r adnodd

Taflen gynllunio sy’n amlinellu’r tasgau dysgu cyfunol a fydd yn ennyn diddordeb mewn Chwaraeon Cymru, gyda ffocws penodol ar rygbi.  Mae’r raglen dysgu yn amlinellu’r cyfleoedd i ddatblygu medrau traws-gwricwlaidd y disgyblion o fewn cyd-destun Addysg Gorfforol.  Bydd y dysgwyr yn recordio sylwebaeth eu hunain o foment eiconig yn hanes rygbi Cymru ac yn  ysgrifennu blog i drafod teimladau chwaraewr cyn ffeinal Cwpan y Byd. Gofynnir iddynt gyfrifo canrannau o ffracsiynau er mwyn cyfrifo % cywirdeb pasio, a cheir cyfle hefyd i drafod sut mae’r defnydd o  ddata o fewn chwaraeon yn bwysig i hyfforddwyr ac wedi creu ystod eang o swyddi o fewn chwaraeon. Trwy gynnal a dadansoddi arolwg, e.e. ‘Pwy yw’r chwaraewr mwyaf poblogaidd yng Nghymru?’ bydd disgyblion yn ymarfer eu sgiliau trin data.  Mae’r disgyblion yn cymhwyso eu gwybodaeth, dealltwriaeth a’u sgiliau addysg gorfforol er mwyn creu gweithgaredd cynhesu addas. Mae’r awdur yn annog athrawon i gynnal digon o drafodaethau ar lawr y dosbarth er mwyn ennyn diddordeb y dysgwyr yn y maes ac i gadw’r tasgau yn syml ond yn gyffrous i’r dysgwyr. 

Cwrs TGAU

Addysg Gorfforol –  Sylfaen 

Medrau

Llythrennedd:  llafaredd Cymraeg ac yc ysgrifennu blog

Rhifedd: cyfrifo canrannau o ffraciynau.

Cymhwysedd digidol: trin data