Ymarfer ar gyfer ateb y cwestiwn “Sut mae’r awdur” ar bapur arholiad Iaith
Ysgol – Ysgol Glan y Môr, Dwyfor, Gwynedd
Oed– Blwyddyn 10 ac 11
Iaith – Cymraeg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 4-6 awr
Teitl yr adnodd – Ymarfer ar gyfer ateb y cwestiwn “Sut mae’r awdur” ar bapur arholiad Iaith
Disgrifiad o’r adnodd
Dyma uned sy’n rhoi’r cyfle i ddysgwyr CA4 ymarfer ar gyfer ateb y cwestiwn “Sut mae’r awdur” sydd yn y papur arholiad Iaith. Mae’r camau paratoi yn arwain y dysgwyr i adnabod nodweddion iaith ac arddull cyn ateb y prif gwestiwn ar ddiwedd yr uned, sef: ‘Mae trefnwyr Tafwyl yn eisio denu pobl i’r ŵyl. Sut mae awdur y wefan yn llwyddo i wneud hyn?’ [8 marc]. Gall yr uned weithio fel uned o waith ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb, neu fel tasg dysgu o bell. Mae popeth sydd ei angen ar gyfer ei defnyddio fel tasg gyfunol llwyddiannus yn rhan o’r pecyn e.e. linciau, enghreifftiau ayyb.
Cwrs TGAU
Cymraeg Iaith, U2 ac U3
Medrau
Llythrennedd: Rhoi’r cyfle i ddysgwyr ymateb i ddarnau darllen a pharatoi ar gyfer ateb cwestiwn ysgrifenedig mewn arholiad

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.