Y saith cysgadur
Gwybodaeth
- Pwnc – Llythrennedd a Rhifedd
- Ysgol – Ysgol Gynradd Abererch
- Oed– Derbyn, Blwyddyn 1 a 2
- Iaith – Cymraeg a Saesneg
- Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 7+ awr
Cyfres o dasgau llythrennedd a rhifedd a gyflwynwyd yn wreiddiol yn nhymor yr Hydref 2020 gyda’r gerdd “Y Saith Cysgadur” yn ganolbwynt iddynt. Mae cyfle i ddysgu am y saith anifail sy’n gaeafgysgu, i adrodd neu berfformio’r gerdd ac i ddatblygu sgiliau llafar hefyd drwy greu fideo o ‘Fy hoff dymor..’ Cynigir bwydlen o weithgareddau creadigol hefyd. Mae’r awdur yn defnyddio Adobe Spark (ffeiliau sain a fideo) er mwyn helpu plant o gartrefi di-Gymraeg i glywed yr ynganiad cywir. Mae defnyddio adnoddau S4C Cyw yn bwysig hefyd gan ei fod yn hybu’r cysylltiad rhwng rhieni di-Gymraeg gyda chyfryngau cyfrwng Gymraeg ac yn sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau o safon.
SGILIAU TRAWSGWRICWLAIDD
Meysydd Dysgu a Phrofiad
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Llythrennedd
- Datblygu geirfa
- Gwrando a deall
- Deall, ymateb a dadansoddi
- Eglurder a geirfa
Rhifedd
- Rhuglder
- Y system rif
Cymhwysedd digidol
- Creu cynnwys digidol

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.