Y Parc Cenedlaethol

Gwybodaeth

  • Pwnc – Iaith a Llythrennedd
  • Ysgol – Ysgol Brynrefail, Arfon, Gwynedd
  • Oed– Blwyddyn 9, 10, 11, addas ar gyfer disgyblion sy’n dysgu ar drothwy C/D TGAU
  • Iaith – Cymraeg
  • Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 4 – 6 awr

Cyfres o dasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu yn seiliedig ar sampl o erthygl am Barc Cenedlaethol Eryri gan ddisgybl Blwyddyn 10. Mae’r uned wwaith yn addas i ddisgyblion graddau C/D sydd ym mlwyddyn 9, 10 neu 11 ac yn cynnwys holiadur, deunydd darllen a chyfle i ysgrifennu deialog. Gall y disgyblion gwblhau’r tasgau ar bapur neu’n ddigidol drwy rannu’r adnoddau ar lwyfannau megis Schoology neu Google Classroom.

Cwrs TGAU- Cymraeg Unedau 2 a 3

Sgiliau Trawsgwricwlaidd

Llythrennedd

  • Prif ffocws yr adnoddau yw datblygu sgiliau gwrando, llafar, darllen ac ysgrifennu.