Y Gymraeg yn CA4

Adnoddau i gefnogi datblygiad y Gymraeg yn CA4.

Adnoddau

Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.
Adnoddau trawsrhanbarthol

Mae’r tudalennau Sway isod yn cynnwys cyfres o ddolenni i adnoddau a ddatblygwyd gan y Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol. Bydd dolenni ychwanegol i adnoddau yn cael eu hychwanegu at y tudalennau Sway bob wythnos.

Iaith Gyntaf 

Ail Iaith

Model dysgu cyfunol Cymraeg CA4

Yn yr adnodd hwn, y prif ddogfen yw’r un isod. Rhaid agor y ddogfen hon yn gyntaf ac o fewn y brif ddogfen honno mae dogfennau llai yn agor wrth glicio arnynt ddwywaith. Dyma fodel dysgu cyfunol sy’n awgrymu ffyrdd i gyflwyno Uned 1 i ddysgwyr yn yr ysgol a/neu adref. Mae prif egwyddorion dysgu cyfunol yn greiddiol i’r model.

Model dysgu cyfunol Bl. 10 - Ein byd

Yn yr adnodd hwn y prif ddogfennau yw’r ddau gyntaf isod sef ‘1. Dysgu o Bell YMCHWIL’ a ‘2. MODEL Blwyddyn 10’. Rhaid agor Dogfen 1 yn gyntaf er mwyn deall yr egwyddorion sy’n sail i’r adnodd. Wedyn, mae Dogfen 2 yn cynnig model dysgu cyfunol ar y thema ‘Ein Byd’. O fewn y model mae tasgau melyn Iechyd a Lles a thasgau gwyrdd Cymraeg. Mae’r tasgau yn blaenoriaethu cyfleoedd i ddysgwyr wylio, gwrando a thrafod yn y Gymraeg ac yn plethu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y cyrsiau Iaith a Llên.

Mae’r model yn addas ar gyfer dysgu cyfunol gan fod modd i’r athro ddewis a dethol y tasgau yn ôl gallu’r dysgwyr a gellir eu gosod fel tasgau ysgol neu adref. Mae’r holl dasgau yn arwain at y dasg gyfoethog ar y diwedd. Drwy glicio ddwywaith ar yr eiconau o fewn y brif ddogfen bydd dogfennau llai yn agor.

Model dysgu cyfunol Bl. 10 - Ein byd - Ail iaith

Dyma fodel o ddysgu cyfunol ar y thema ‘Ein Byd’ sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg Ail iaith Blwyddyn 10. Mae’r tasgau yn addas ar gyfer eu defnyddio yn yr ysgol a/neu adref.