Y Gymraeg yn CA3

Adnoddau i gefnogi datblygiad y Gymraeg yn CA3.

Adnoddau

Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.
Adnoddau trawsrhanbarthol

Mae’r tudalennau Sway isod yn cynnwys cyfres o ddolenni i adnoddau a ddatblygwyd gan y Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol. Bydd dolenni ychwanegol i adnoddau yn cael eu hychwanegu at y tudalennau Sway bob wythnos.

Iaith Gyntaf 

Ail Iaith

Model dysgu cyfunol Blwyddyn 9 - "Ein Byd"

Yn yr adnodd hwn mae’r prif ddogfennau wedi eu rhifo yn 1 a 2 – ‘1. Dysgu o Bell YMCHWIL’ a ‘2. MODEL Blwyddyn 9’. Rhaid agor Dogfen 1 yn gyntaf er mwyn deall yr egwyddorion sy’n sail i’r adnodd. Wedyn, mae Dogfen 2 yn cynnig model dysgu cyfunol ar y thema ‘Ein Byd’. O fewn y model mae tasgau melyn Iechyd a Lles a thasgau gwyrdd Cymraeg. Mae’r tasgau yn blaenoriaethu cyfleoedd i ddysgwyr wylio, gwrando a thrafod yn y Gymraeg ac yn plethu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y cyrsiau Iaith a Llên.

Mae’r model yn addas ar gyfer dysgu cyfunol gan fod modd i’r athro ddewis a dethol y tasgau yn ôl gallu’r dysgwyr a gellir eu gosod fel tasgau ysgol neu adref. Mae’r holl dasgau yn arwain at y dasg gyfoethog ar y diwedd. Drwy glicio ddwywaith ar yr eiconau o fewn y brif ddogfen bydd dogfennau llai yn agor.

Mae’r ‘dogfennau llai’ sef Dogfennau 3 – 9 wedi eu cynnwys ar wahân hefyd fel bod yr adnodd yn hygyrch i athrawon.

Model dysgu cyfunol Blwyddyn 5 i 9 - "Ein Byd"

Mae’r model hwn yn cyfarch egwyddorion dysgu o bell (gw. dogfen ‘1b. Dysgu o bell YMCHWIL’) a dysgu cyfunol. Mae’r Dyddlyfr yn adnodd ar gyfer blynyddoedd 5-9 ond mae’r tasgau ychwanegol a gyflwynir yn dasgau sydd angen eu haddasu a’u teilwra yn ôl gofynion ac anghenion y dysgwr. Mae’n fodel holistaidd sy’n ystyried iechyd a lles y dysgwr. Mae’r model yn cynnwys cyfuniad o dasgau digidol a thraddodiadol eu naws e.e. mae modd defnyddio adnodd fel pecyn gwaith ar bapur. Mae’r Dyddlyfr yn rhoi llais i’r dysgwr ei hunan ac yn sicrhau cyfleodd iddo ddatblygu yn ddysgwr annibynnol. Mae rhwydd hynt i’r athro addasu’r deunyddiau/tasgau.

Rhaid agor adnodd 1a yn gyntaf, wedyn 1b ayyb.

Model dysgu cyfunol Blwyddyn 7-8 - "Ein Byd" - Ail iaith

Dyma fodel o ddysgu cyfunol ar y thema ‘Ein Byd’ sy’n addas i ddysgwyr Cymraeg Ail iaith Blwyddyn 7/8. Mae’r tasgau yn addas ar gyfer eu defnyddio yn yr ysgol a/neu adref.