Uned Ymarfer ADA: Cadair
Ysgol – Ysgol Glan Clwyd, Dinbych
Oed – Blwyddyn 10 ac 11
Iaith – Cymraeg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 7+ awr
Teitl yr adnodd – Uned Ymarfer ADA: Cadair
Disgrifiad o’r adnodd
Mae’r uned yma yn rhoi cyfle i’r disgyblion ymarfer y broses ADA. Bydd angen i’r disgyblion ymchwilio, creu manyleb, casglu ysbrydoliaeth, creu syniadau, modelu, datblygu a dylunio cynllun syniad terfynol. Thema’r uned yw ‘Cadair’, ac mae angen i’r disgyblion ddylunio cadair i sefyllfa, o’u dewis nhw. Gallant ddefnyddio dulliau amrywiol traddodiadol neu CAD i ddylunio eu syniadau. Anogir y disgyblion i gyflwyno eu gwaith ar ddull llyfr braslunio digidol mewn dogfen Slides. Mae’r awdur yn nodi y dylid sicrhau cyfleoedd i’r disgyblion i arwain y dysgu eu hunain gan wneud penderfyniadau ynglŷn â sut maent am gyflwyno’r gwaith, h.y defnyddio meddalwedd CAD o’u dewis a defnyddio amrywiaeth o ddulliau dylunio traddodiadol.
Cwrs TGAU – Dylunio a Thechnoleg Uned 1
Medrau
Llythrennedd: Dadansoddi a gwerthuso eu syniadau
Rhifedd: Trafod maint y dyluniad ac modelu syniadau i raddfa.
Cymhwysedd Digidol/TGCh: Datblygu sgiliau CAD, a chyfathrebu syniadau trwy ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd CAD.

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.