Uned amlder cronnus a blwch a blewyn

Gwybodaeth

  • Pwnc – Mathemateg
  • Ysgol – Ysgol Syr Hugh Owen, Arfon, Gwynedd
  • Oed– Blwyddyn 10 ac 11
  • Iaith – Cymraeg a Saesneg
  • Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 1-3 awr

Adnodd sy’n modelu sut i gynllunio ar gyfer addysgu amlder cronnus a blwch a blewyn gan ystyried yr hyfedreddau mathemategol yn y cwricwlwm newydd. Mae’r adnodd yn cynnwys cwis er mwyn canfod dysgu blaenorol y disgyblion a chyflwyniad o sleidiau a fideos er mwyn cyflwyno dysgu newydd. Defnyddir cwestiynau aml ddewis a chwestiynau cywir/anghywir i fesur cynnydd y disyblion yn ogystal â gweithgareddau rhesymu er mwyn dyfnhau dealltwriaeth y disgyblion.

Cwrs TGAU – Mathemateg: Mathemateg a Rhifedd Uwch a Chanolradd

Adnoddau

Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.