Sw Sara Mai gan Casia William (Y Lolfa, 2020)
School – Ysgol Abererch
Age – Bl 3/4
Language – Cymraeg
Length of activity – 4-6 awr
Title of resource – Protest achub sw Sara Mai (Casia Williams)
AOLE 1 Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu / Language, literacy and communication
AOLE 2 Celfyddydau mynegiannol / Expressive arts
Description including blended learning activities
Sw Sara Mai gan Casia Williams Mae disgyblion Blwyddyn 3 a 4 wedi mwynhau darllen ‘Sw Sara Mai’ gan Casia Williams (Y Lolfa, 2020) ac wedi ymateb yn dda i weithgareddau dosbarth sy’n seiliedig ar y dull ‘Mantell yr Arbenigwr’, (https://www.mantleoftheexpert.com). Cynlluniwyd dilyniant o weithgareddau yn seiliedig ar y thema o ‘brotest’ ond mae’r Cyfnod Clo yn golygu bod y disgyblion bellach wedi gorfod parhau gyda’u dysgu adre. Mae’r disgyblion yn trafod dulliau protest ac yn cael cyfle i wrando ar areithiau enwogion ac i astudio posteri a sloganau hanesyddol a chyfoes er mwyn dysgu sut i ddefnyddio iaith berswadio. Mae’r meini prawf llwyddiant a’r canllawiau yn gymorth i’r disgyblion i baratoi placard ac araith er mwyn perswadio cynghorwyr lleol i beidio cau’r Sw er mwyn adeiladu archfarchnad. Mae’r athrawes yn annog y disgyblion i ymarfer eu hareithiau cyn recordio neu ffilmio’u hunain. Gellir defnyddio ap ffôn symudol, Vocaroo, FlipGrid neu J2Write er mwyn recordio’r araith.
Cross curricular skills
Literacy
– Datblygu geirfa / Developing vocabulary
– Gwrando i ddeall / Listening to understand
– Geirfa, sillafu, gramadeg / Vocabulary, spelling, grammar
– Cynllunio a threfnu ar gyfer gwahanol ddibenion, cynulledifaoedd a chyd-destunau / Planning and organising for different purposes, audiences and context

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.
Protest achub sw Sara Mai (Casia Williams)