‘Sbinia’ – Nofel gan Bedwyr Rees

Gwybodaeth

  • Pwnc – Iaith a Llythrennedd

  • Ysgol – Ysgol Brynrefail, Arfon, Gwynedd

  • Oed– Blwyddyn 9, 10, 11, addas ar gyfer disgyblion sy’n dysgu ar drothwy C/D TGAU

  • Iaith – Cymraeg

  • Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 4 – 6 awr

Disgrifiad o’r adnodd

Cyfres o dasgau darllen, gwrando ac ysgrifennu yn seiliedig ar ddwy bennod agoriadol y nofel ‘Sbinia’ gan Bedwyr Rees. Mae’r unedau gwaith yn addas i ddisgyblion graddau C/D sydd ym mlwyddyn 9, 10 neu 11 ac yn cynnwys clip sain, ffrâm gwrando a chwestiynau i wirio dealltwriaeth. Gall y disgyblion gwblhau’r tasgau ar bapur neu’n ddigidol trwy rannu’r adnoddau ar lwyfannau megis Schoology neu Google Classroom.

Cwrs TGAU

Cymraeg Unedau 2 a 3

Sgiliau Trawsgwricwlaidd

Llythrennedd
  • Prif ffocws yr adnoddau yw datblygu sgiliau gwrando, llafar, darllen ac ysgrifennu.