Polymerau
Ysgol – Ysgol Glan Clwyd, Dinbych
Oed– Blwyddyn 10 ac 11
Iaith – Cymraeg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 4-6 awr
Teitl yr adnodd – Polymerau
Disgrifiad o’r adnodd
Mae’r Uned Polymerau yn rhoi cyfle i’r disgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth am bolymerau. Mae’r uned yn datblygu eu dealltwriaeth am wahanol fathau o bolymerau a phrosesau cynhyrchu gwahanol. Mae hefyd cyfle i’r disgyblion ymarfer eu techneg arholiad gan ymateb i sawl cwestiwn er mwyn adalw eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, hefyd cyfle i wneud prawf bychan neu estynedig. Mae’r awdur yn argymell bod athrawon yn sicrhau bod disgyblion yn cael cyfle i drafod y polymerau gwahanol a bod ganddynt fynediad i’r we er mwyn gallu gwneud y gwaith ymchwil yn annibynnol.
Cwrs TGAU – Dylunio a Thechnoleg Uned 1
Medrau
Llythrennedd: Trafod technegau ac ymateb i gwestiyanu byr ac estynedig.
Cymhwysedd Digidol/TGCh: Gwaith ymchwil annibynol ar y we. .

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.