Ifaciwiws yr Ail Ryfel Byd
Ysgol– Ysgol Gynradd Chwilog
Oedran – Bl 5 a 6
Iaith – English
Hyd yr uned – 7+hours
MDaPh – Dyniaethau
MDaPh – Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
Disgrifiad o’r gweithagreddau
Defnyddir ffotograff hanesyddol fel sbardun i ymholiad hanesyddol ar brofiadau’r ifaciwis yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r disgyblion yn cael cyfleoedd i gywain gwybodaeth trwy ymchwilio ar y we a gwrando ar brofiadau llygad-dyst lleol. Darllenir ‘Sais ydi o, Miss!’ gan Brenda Wyn Jones (Gwasg Gwynedd, 2011) fel nofel dosbarth ac mae’r disgyblion yn ymwybodol o arteffactau’r cyfnod, e.e. masg nwy, llyfr dogni, cês, teganau. O ganlyniad maent yn ymateb yn dda i’r weithgareddau creadigol, boed hynny wrth ddylunio a chreu arteffact neu drwy ysgrifennu llythyr o safbwynt ifaciwi. Mae’r athrawes yn rhannu meini prawf llwyddiant ysgrifennu a llafaredd er mwyn cynorthwyo’r disgyblion yn eu dysgu. Mae’r adnodd Adobe Spark yn gyfrwng da i sbarduno’r dysgu creadigol a defnyddir Google Classroom i rannu modelau llafar a chanllawiau ysgrifennu. Ar ddiwedd yr uned ddysgu mae disgyblion yn ymateb i holiadur Google Form er mwyn adalw’r dysgu.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
- Gwrando i ddeall / Listening to understand,
- Strategaethau darllen / Reading strategies,
- Deall, ymateb a dadansoddi / Understanding, response and analysis,
- Cynllunio a threfnu ar gyfer gwahanol ddibenion, cynulledifaoedd a chyd-destunau / Planning and organising for different purposes, audiences and context,
- Prawfddarllen, golygu a gwella / Proofreading, editing and improving
Digidol
- Cydweithredu / Collaboration,
- Cyrchu, chwilio a chynllunio cynnwys digidol / Sourcing, searching and planning digital content

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.