Ieithoedd Modern a Rhyngwladol – Sector Uwchradd

Canllaw ar gyfer Llywodraethwyr
Canllaw ar gyfer Llywodraethwyr - Adnoddau
Llyfryn defnyddiol a chanllawiau i Lywodraethwyr ysgolion i gefnogi Ieithoedd yn y cwricwlwm. Fe’u cynhyrchwyd gan RoutesCymru. Ceir yr holl ddogfennau ynghyd â rhagor o wybodaeth ar eu gwefan.
Hyrwyddo Ieithoedd
Adnoddau i helpu ysgolion i hyrwyddo Ieithoedd ac i annog ein dysgwyr i ddewis Ieithoedd yng nghyfnodau allweddol 4 a 5.
Clipiau Fideo
Ystod o ddolenni fideo i’w defnyddio gyda’ch dosbarthiadau.
Fideo Institut francais: Pam Ffrangeg ar lefel TGAU
https://plusloin.io/en
Fideo Routes Cymru – pam bod ieithoedd yn bwysig
CBB-e: Cyfathrebu Busnes Byd-eang:
TGAU: pam parhau efo ieithoedd yn CA4
TGAU: pam parhau efo ieithoedd yn CA4
Cymraeg
Ieithoedd a Gyrfaoedd – cyswllt Youtube
Careers with Languages Webinars Trailer
Mae darnau yno o’r chwe weminar hyd yma.
13 munud 16 eiliad
Hoffech chi ddefnyddio/gwylio’r weminarau cyfan?
Cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru
Adnoddau
Ystod o adnoddau i ysbrydoli/cymell myfyrwyr a dangos pwysigrwydd ieithoedd.
Sampl o adnodd gan Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU / torri’r cod – Ffrangeg
Gweithgareddau ysbrydoledig a chyffrous wedi’u creu gan Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU, megis defnyddio sgiliau datrys problemau, sgiliau iaith ac ymchwil i atal masnachu cyffuriau – cysylltwch â
stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru i gael mynediad i’r adnoddau.
Mae’r adnoddau hyn ar gael mewn Ffrangeg, Sbaeneg ac Almaeneg.
Llyfrynnau a PPT PIlacs : Yn y pecyn hwn o bosteri, cardiau post a llyfrynnau gweithgarwch ceir gweithgaredd dosbarth wedi’i gynllunio’n barod ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 9.
Where Languages take you: Cyflwyniad gan enwogion sy’n siarad am sut y mae ieithoedd yn helpu eu gwaith, neu wedi bod yn bwysig iddynt, a chwestiynau dilynol.
Gyrfaoedd a Ieithoedd: PPT gyda phwyntiau pwerus am fanteision astudio ieithoedd, y gellir ei ddefnyddio i greu eich fideo hyrwyddol eich hunan.
Dolenni i wefannau rhyngweithiol
Gwefannau rhyngweithiol i hyrwyddo Ieithoedd a chodi dyheadau
www.worldoflanguages.co.uk: gem ar-lein am ddim sy’n cynnwys naw gweithgaredd sy’n dathlu ieithoedd y byd, sut maen nhw’n cysylltu â’i gilydd a sut mae geiriau na ellir eu cyfieithu yn rhan annatod o ddiwylliant.
Mentora ITM: Adnoddau CA3+
Mae’r tîm wedi creu cyfres o adnoddau. Ceir sesiynau blasu iaith a theithiau tywysedig o amgylch prifysgolion i ddysgwyr cyfnod allweddol 3, ond byddant yr un mor ddefnyddiol i ddysgwyr hŷn hefyd.
Teithiau tywysiedig : https://mflmentoring.padlet.org/mflmentoring/universities
Sesiynau blasu : https://mflmentoring.padlet.org/mflmentoring/LanguageTasters
Cwriwclwm i Gymru – Cefnogi’r Daith Ddiwygio
Cwricwlwm i Gymru - cefnogi'r Daith Ddiwygio
Yma byddwn yn postio prosiectau, treialon neu adnoddau a allant fod yn berthnasol a defnyddiol wrth gynllunio ar gyfer CiG.
Mentora ITM
Datblygu Amlieithrwydd
Ar gyfer ysgolion uwchradd yn bennaf y mae’r adnoddau hyn, ond mae rhai yn berthnasol i’r cynradd hefyd.
Cystadleuaeth Gwobr Anthea Bell i Gyfieithwyr Ifanc
Mae cystadleuaeth gyfieithu newydd yn cael ei lansio yn yr Hydref 2021 i fyfyrwyr rhwng 11 ac 18 oed yng Nghymru. Mae’r Wobr Anthea Bell i Gyfieithwyr Ifanc yn fenter gan y Translation Exchange yng Ngholeg y Frenhines, Prifysgol Rhydychen. Cynhelir y gystadleuaeth o’r Ffrangeg i’r Gymraeg am y tro cyntaf yn 2021-2022.
Dyma ffordd wych i ysbrydoli a chymell myfyrwyr i ddefnyddio iaith yn greadigol a gwneud cysylltiadau a fydd yn eu galluogi i fod yn ddysgwyr hyderus a chwilfrydig!
Am fwy o wybodaeth am dasgau’r gystadleuaeth ac adnoddau addysgu ar gyfer y llinynnau Cymraeg a Saesneg, cliciwch ar y ddolen yma.
Prosiect Llythrennedd Amlieithog - Ysgol Gyfun Gŵyr - ERW 2015-18
Prosiect peilot a ddatblygwyd gan Janette Davies, athrawes ITM yn Ysgol Gyfun Gŵyr ( ERW).
Wrth adnabod gofynion cyffredin dysgwyr ar draws ieithoedd, ac ar draws ystod o lefelau gallu, mae’r prosiect wedi esblygu i fod yn fenter ar y cyd rhwng yr holl adrannau ieithoedd. Mae hefyd yn gosod y dysgwr yng nghanol y broses ac yn darparu cyfleoedd i ddatblygu pedwar diben y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Cynllunnir y ddogfen hon fel canllaw cam wrth gam i weithredu’r prosiect ar draws adrannau ieithoedd mewn ysgol.
Ymunwch â Llythrennedd Amlieithog ERW ar Hwb i gael mynediad i’r holl adnoddau
https://hwb.gov.wales/networks/f98a4bf9-5b90-4f3c-8207-e60ca33aabbb
Hyrwyddo Amlieithrwydd yn yr ysgol - Ysgol Uwchradd Prestatyn
Fideo byr i ddangos sut mae’r ysgol wedi mynd ati i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo manteision amlieithrwydd yn sgil cynhadledd ERW ar y thema hon. |
Rhannu Profiadau Ysgolion yn yr Alban - Gillian Campbell-Thow
Rhannu Profiadau Ysgolion yn yr Alban
13.12.2021 Siaradwr Gwadd: Gillian Campbell- Thow Swyddog Gwella Ieithoedd Modern / Arweinydd Strategol dysgu ac addysgu Iaith ac addysg trwy gyfrwng y Gaeleg yn yr Alban. |
|
|
Cynllunio’n Wahanol ar gyfer CiG – Gwersi a Ddysgwyd yn yr Alban
07.02.2022 Siaradwr Gwadd: Gillian Campbell- Thow Swyddog Gwella Ieithoedd Modern / Arweinydd Strategol dysgu ac addysgu Iaith ac addysg trwy gyfrwng y Gaeleg yn yr Alban. |
|
|
Trosglwyddo: Sut i Sicrhau Parhad a Chynnydd
10.03.2022 Siaradwr Gwadd: Gillian Campbell- Thow Swyddog Gwella Ieithoedd Modern / Arweinydd Strategol dysgu ac addysgu Iaith ac addysg trwy gyfrwng y Gaeleg yn yr Alban. |
|
|
Gwybodaeth Benodol ac Arferion Ystyrlon
Diffinio’r Cwricwlwm Ieithoedd
Manylion: Adnabod elfennau craidd dysgu ac addysgu iaith ac ystyried sut i roi trefn arnynt er mwyn creu cwricwlwm ieithoedd ystyrlon.
20.01.2022 Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust. |
|
|
Gwybodaeth Glir ac Arferion Ystyrlon
Manylion: Mae cyflwyno gwybodaeth glir yn sicrhau chwarae teg i bawb, ac mae arferion ystyrlon yn gwneud i’r iaith gydio.
17.02.2022 Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust. |
RHAN 1 |
RHAN 2 |
|
Geirfa: Ehangder a Dyfnder
Manylion: Beth mae’n ei olygu i wybod gair?
Edrych ar weithgareddau i ddatblygu ehangder a dyfnder gwybodaeth eiriol.
(Ni fydd rhai o’r agweddau ar ddyfnder gwybodaeth eirfaol yn rhan o faes gwybodaeth y cynradd, ond bydd y sesiwn yn helpu i ddeall y darlun ehangach).
17.03.2022 Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust. |
|
|
Ieithoedd Rhygwladol o fewn y MDaPh ILlaCh - Sesiwn 1: 11/05/2022
|
Ieithoedd Rhygwladol o fewn y MDaPh ILlaCh - Sesiwn 2: 14/06/2022
|
Prosiect Creu ar Draws Ieithoedd – Cynllunio ar draws MDaPh ILlaCh
Rhesymeg ac amcanion
Cefnogir y prosiect hwn gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau AH/T007087/1
Mae’r Uned hon yn fodd i ddysgwyr ddarganfod barddoniaeth fel ffordd greadigol o archwilio ieithoedd, hunaniaethau a’r byd. Trwy ddarllen ac ysgrifennu barddoniaeth mewn ieithoedd gwahanol, yn ogystal â cherddi wedi’u cyfieithu, bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau meddwl mewn cyd-destun amlieithog ac yn darganfod sut y mae ieithoedd yn ein cysylltu.
Bydd dysgwyr yn:
- Darganfod barddoniaeth fel rhywbeth i gael mwynhad ohono
- Datblygu hyder trwy archwilio hunaniaethau
- Gwneud cysylltiadau rhwng dysgu mewn gwahanol ieithoedd (Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg)
- Creu a chyflwyno eu testunau creadigol eu hunain, gan ychwanegu eu llais at lenyddiaeth mewn amrywiaeth o gyd-destunau a chyfryngau.
Mae sgôp hefyd i ddysgwyr gyflwyno’r gwaith creadigol hwn i wahanol gynulleidfaoedd, mewn Eisteddfod neu gystadleuaeth, gŵyl farddoniaeth neu arddangosfa, a hynny er mwyn meithrin hyder mewn mynegiant creadigol a chreu ymdeimlad o berthyn i gymunedau lleol a byd-eang.
Mae barddoniaeth yn ffordd o archwilio iaith, ac archwilio’r byd trwy iaith. Yn hytrach na dadansoddi barddoniaeth, mae’r Uned hon yn annog bod yn weithredol, pan fo’r dysgwr yn creu gwaith newydd wrth ymwneud â thestunau ac ieithoedd eraill.
Mae’r deunyddiau peilot yn cynnwys gweithdai barddoniaeth ar fideo gan feirdd o Gymru, yn Gymraeg a Saesneg, a chan feirdd rhyngwladol o Ffrainc, India, Gwlad Pwyl a Slofenia. Mae pob fideo, a’r PowerPoint sy’n cyd-fynd, yn cyflwyno ffordd wahanol o greu cerdd cam wrth gam, gyda phwyslais ar chwilfrydedd am ddiwylliannau eraill yn ogystal â gwerthfawrogi diwylliannau ac ardaloedd lleol. Mae’r ymarferion creadigol yn chwareus a gall dysgwyr o bob gallu gymryd rhan. Mae’r beirdd hefyd yn rhoi syniad i ni o ble maen nhw’n byw, a’r hyn y mae eu gwahanol ieithoedd yn ei olygu iddyn nhw.
Cynlluniwyd yr Uned i gysylltu profiadau dysgu yn Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg. Mae’n seiliedig ar dri chwestiwn allweddol yn ymwneud ag hunaniaeth:
- Pwy ydw i?
- Ble ydw i?
- Beth alla’ i newid?
Gellir defnyddio’r gweithdai yn annibynnol o’i gilydd ac mewn unrhyw drefn, ond mae digon o sgôp ar gyfer cydweithio ar draws ieithoedd. Yn Gymraeg, mae pwyslais ar iaith, lle a hunaniaeth, ac yn Saesneg mae cerddi wedi’u cyfieithu o wahanol ieithoedd yn helpu dysgwyr i weld Saesneg fel iaith sydd yn teithio. Yn Ffrangeg, gall y gerdd fod yn ffordd hwyliog o ddysgu am batrymau iaith – ond gall ddangos hefyd sut y mae lle gwahanol yn creu persbectif newydd ar iaith a hunaniaeth. Mae cysylltiad rhwng cynnwys, dulliau a sgiliau pob gweithdy, ac anogir dysgwyr i ddatblygu eu creadigrwydd eu hunain ar draws y tri pwnc.
Datblygwyd gan GwE Gogledd gyda’r Athro Zoë Skoulding (Prifysgol Bangor) a beirdd perthnasol, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Am fwy o wybodaeth ac i gael cymorth i ddatblygu’r prosiect yn eich ysgolion cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru
Adnoddau Ffrangeg Samira Negrouche: On a planté un fleuve / Planasom Afon
Fideo yn Ffrangeg gydag is-deitlau Cymraeg a PPT i gyd-fynd
Mae Rhan 1 yn cyflwyno’r bardd Samira Negrouche o Algeria a’i choed olewydd.
Mae Rhan 2 yn archwilio defnyddio trosiadau, gan ddangos cyswllt rhyngddynt â diwylliant a hunaniaeth, a sut y gall trosiad ein helpu i weld rhywbeth newydd. Ceir nodyn atgoffa am sut i ddefnyddio’r rhagenw ‘on’ yn Ffrangeg.
Mae Rhan 3 yn egluro sut i ysgrifennu cerdd am goeden, gan dalu sylw i’r synhwyrau. Trwy ganolbwyntio ar yr hyn sydd o’u cwmpas, gall myfyrwyr ddysgu sut i deimlo fwy o gyswllt â’r byd naturiol, yn ogystal ag ymarfer arsylwi.
Cysylltiadau:
Am bersbectif arall ar y byd naturiol yn Saesneg, mae’r bardd o Wlad Pŵyl, Julia Fiedorczuk, yn awgrymu cymryd safbwynt anifail i ysgrifennu cerdd.
Adnoddau Ffrangeg Frédéric Forte: Les règles du jeu / Rheolau’r Gêm
Fideo yn Ffrangeg gydag is-deitlau Cymraeg a PPT i gyd-fynd
Mae Rhan 1 yn cyflwyno rheolau enwau lleoedd, megis lleoliad yr ansoddair lliw ar y diwedd yn Gymraeg. Rydym ni’n cyfarfod â Frédéric Forte, bardd o Ffrainc, sy’n egluro pam y mae’n dyfeisio ei reolau ei hunan ar gyfer ysgrifennu cerddi. Ceir cyflwyniad byr i’r grŵp Oulipo y mae’n aelod ohono, gydag enghreifftiau o’u rheolau ysgrifennu a’u gemau anghyffredin.
Mae Rhan 2 yn dangos sut i ysgrifennu cerdd mewn ffurf a ddyfeisiwyd gan Frédéric, sef y ‘quennet poced’, gyda rhai enghreifftiau mewn Ffrangeg a Saesneg. Mae’r cerddi byrion hyn yn annog archwilio lle a rhoi sylw i bethau o’ch cwmpas. Trwy ysgrifennu mewn un iaith ac yna cyfieithu i’r llall, gall myfyrwyr ddarganfod sut mae eu hymdeimlad o hunaniaeth yn newid.
Mae Rhan 3 yn cynnwys nodyn atgoffa o’r rheolau wrth ddefnyddio ansoddeiriau mewn Ffrangeg, ac eglurhad o’r strwythur i’w ddilyn. Mae’r enghraifft olaf yn dangos y dechneg ysgrifennu Ffrangeg ar blatfform rheilffordd yng Nghymru, a sut y gellir ei haddasu ymhellach.
Cysylltiadau:
Mae Jacques Roubaud hefyd yn aelod o Oulipo, ac mae’r fideo am ei gerdd yn dangos rheol ysgrifennu arall, yn ogystal â chanolbwyntio ar enwau lleoedd ac arsylwi.
Yn Saesneg, byddai’r ymarfer hwn yn cyd-fynd â fideo Jonathan Edwards ar sylwi ar yr iaith a ddefnyddir mewn mannau cyhoeddus ac ar enwau lleoedd.
Yn wahanol i bwyslais Oulipo ar reolau, dywed Gregor Podlogar o Slofenia ei fod wedi dysgu gan Tomaž Šalamun nad oes rheolau mewn barddoniaeth. Dywed Sampurna Chattarji y gall cerdd fynd i ba gyfeiriad bynnag y mae arni eisiau. O edrych yn fanylach, gwelir bod cerdd Šalamun yn dilyn rheol rhestr. Mae Sampurna Chattarji yn dilyn ei rheol ei hunan, sef talu mwy o sylw i sŵn geiriau yn hytrach na’u hystyr. Mae’r ‘quennet poced’ yn dilyn un set o reolau ond yn torri rhai eraill, er enghraifft, defnyddio brawddegau.
Adnoddau Ffrangeg Aurélia Lassaque: Sur une mer lointaine / Ar fôr ymhell i ffwrdd.
Fideo yn Ffrangeg gydag is-deitlau Cymraeg a PPT i gyd-fynd
Une mer lointaine
Rhan 1 (0.49)
Mae’r bardd Ocitaneg Aurélia Lassaque yn cyflwyno ei hiaith ac yn siarad am ysgrifennu cerddi dwyieithog sy’n gyfuniad o Ocitaneg a Ffrangeg, oherwydd ei bod yn meddwl yn wahanol yn y ddwy iaith.
Rhan 2 (3.44) Mae Aurélia yn darllen enghraifft o farddoniaeth Ocitaneg ac yn siarad am bontio rhwng ieithoedd. Gwahoddir dysgwyr (ac mae oedi er mwyn cymryd rhan) i ddyfalu ystyr geiriau Ocitaneg trwy eu cymharu â Ffrangeg. Mae Aurélia yn darllen ei cherdd yn Ffrangeg ac yn Ocitaneg, fesul llinell. Wedyn, gwelir tabl o eiriau allweddol y gerdd mewn Ocitaneg, Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg, er mwyn dangos pethau tebyg a gwahanol ar draws y pedair iaith, ac i ddangos bod gwybod rhagor o ieithoedd yn creu rhagor o ffyrdd o gysylltu ystyron.
Rhan 3 (11.37) Mewn ymarferiad ysgrifennu gwahoddir dysgwyr i ysgrifennu eu cerdd eu hunain yn Gymraeg neu Saesneg trwy ddyfalu neu ddyfeisio cyd-destun ar gyfer gair cyfarwydd ym mhob un o linellau cerdd Aurélia. Gellir cyfieithu’r cyfieithiad creadigol hwn i Ffrangeg, neu ei gyfieithu’n rhannol i greu cerdd amlieithog.
Rhan 4 (15.25) Mae Aurélia yn darllen ei cherdd yn Ffrangeg gyda’r cyfieithiad Saesneg i ddilyn. Gwna sylwadau ar y syniadau y tu ôl i’r gerdd, a phwysigrwydd darllen cerdd yn uchel i weld a oes angen golygu pellach.
Adnoddau Ffrangeg Roubaud: L’heure- C’est le moment / Amser - Dyma'r amser i...
Fideo teirieithog a 2 PPT i gyd-fynd
Fideo: Roubaud: L’heure: C’est le moment Porthaethwy – Teirieithog:
Roubaud: L’heure: C’est le moment Porthaethwy: Archwilio Porthaethwy mewn tair iaith, wedi’i ysbrydoli gan y gerdd ‘L’heure’ gan Jacques Roubaud. Mae llawer o’r enwau strydoedd yn y dref yn rhai gwreiddiol, nid cyfieithiad o’i gilydd – ac nid yw un enw stryd i’w weld ar unrhyw fap oherwydd mae’n rhan o set Rownd a Rownd
Adnoddau Saesneg Jonathan Edwards – LaLa Land - 'Street writing'
Fideo yn Saesneg a PPT i gyd-fynd
Cyflwynir Jonathan yn Rhan 1, sy’n darllen ei gerdd ‘Lala Land’ yng nghanol tref Casnewydd. Mae’n mynd ymlaen i ddangos peth o’r iaith ysgrifenedig sydd i’w gweld yno.
Mae Rhan 2 yn egluro sut i fynd am dro i gasglu iaith o arwyddion a mannau cyhoeddus er mwyn llunio cerdd, ac mae’n dangos sut gallai hyn edrych mewn llyfr nodiadau. Os nad yw’n bosib mynd am dro, gellir addasu’r dechneg i chwilota ar y rhyngrwyd.
Mae Rhan 3 yn dangos sut i aildrefnu testun i greu cerdd, gan feddwl am sain a rythm, a sut i roi adborth ar gerddi ei gilydd.
Cysylltiadau:
Gallai hyn gysylltu â cherddi Jacques Roubaud neu Frédéric Forte mewn Ffrangeg, gan ei fod yn defnyddio dull penodol o ganolbwyntio ar iaith wrth archwilio lle. Yn debyg i Sampurna Chattarji ac Ifor ap Glyn, mae Jonathan yn dangos sut i ddefnyddio geiriau o ieithoedd gwahanol mewn cerdd.
Adnoddau Saesneg Julia Fiedorczuk: 'Other Lives, Other Bodies'
Fideo yn Saesneg
Mae Rhan 1 yn cyflwyno’r bardd Julia Fiedorczuk o Wlad Pŵyl, a’r syniad o ysgrifennu cerddi am fodau eraill hefyd, nid am fodau dynol yn unig. Ceir trafodaeth am sut y mae cyfieithu yn newid y gerdd ‘Bio’, sy’n agor trafodaeth am sut y gall cerdd olygu pethau gwahanol ar yr un pryd.
Mae Rhan 2 yn dangos sut y gallwn ni ddefnyddio’r synhwyrau i ddychmygu bod yn greadur arall. Wedyn, ceir gweithgaredd paratoi, sef ysgrifennu nodiadau i baratoi at ysgrifennu cerdd.
Yn Rhan 3 ceir enghraifft arall o gerdd sy’n defnyddio’r synhwyrau i ddisgrifio’r profiad o fod yn fyw, pa un ai chwilen neu fod dynol. Sut gallwn ni ddefnyddio iaith wyddonol mewn cerdd? Sut deimlad fyddai byw mewn corff gwahanol? Mae hyn yn arwain at lunio cerdd.
Cysylltiadau:
Mae ffocws Julia ar sut deimlad yw bod yn fod nad yw’n ddynol yn cysylltu â cherddi Samira Negrouche am goed.
Adnoddau Saesneg Tomaž Šalamun - 'Who’s who?'
Fideo yn Saesneg
Mae Rhan 1 yn cyflwyno Slofenia, a Gregor Podlogar, sy’n darllen cerdd gan Tomaž Šalamun, bardd o Slofenia. Mae hyn yn arwain at weithgaredd ble mae myfyrwyr yn darllen y gerdd i’w gilydd, gan newid enw’r person.
Mae Rhan 2 yn disgrifio a modelu’r broses o greu cerdd ar ffurf rhestr, gan ddefnyddio sain ailadroddol, heb odli. Ceir trafodaeth ar sut i ddefnyddio delweddau ac eironi mewn cerdd ble nad oes rheolau.
Cysylltiadau:
Mae’r strwythur rhestr ailadroddol yn cysylltu â’r gerdd gan Jacques Roubaud. Dywed Gregor ei fod wedi dysgu gan Tomaž Šalamun nad oes rheolau mewn barddoniaeth, tra bo Roubaud yn defnyddio rheolau i sbarduno syniadau.
Mae’r awgrym o ddefnyddio iaith y Beibl neu iaith wyddonol yn y gerdd yn cysylltu â diddordeb Julia Fiedorczuk mewn geirfâu gwahanol.
Adnoddau y Saesneg Sampurna Chattarji - 'Swapping Words'
Fideo yn Saesneg
Mae Rhan 1 yn cyflwyno Sampurna Chattarji, bardd o India, ac yn egluro’r broses o ysgrifennu a ddatblygodd gyda’r bardd o Gymru Eurig Salisbury, pan maen nhw’n cyfnewid geiriau o iaith y naill a’r llall heb wybod yr ystyr. Mae’n egluro sut i greu casgliad o eiriau o ieithoedd gwahanol, geiriau go iawn neu eiriau wedi’u bathu.
Mae Rhan 2 yn dangos y broses o ysgrifennu cerdd drwy synau a chyswllt geiriau penodol, yn enwedig y rheiny ble gall yr un sain fod ag ystyron gwahanol, dibynnu ar yr iaith a’r cyd-destun.
Mae Rhan 3 yn dangos sut i ysgrifennu cerdd a defnyddio odl fewnol a chynnil i roi siâp a sain gerddorol iddi, yn hytrach nag odlau amlwg ar ddiwedd llinellau.
Cysylltiadau:
Mae’r ymarferiad yn debyg i’r un a awgrymir gan Ifor ap Glyn. Yn debyg i Frédéric Forte, mae Sampurna yn canolbwyntio ar iaith fel cyfrwng i chwarae â hi, ac ar ysgrifennu fel math o gêm.
Adnoddau Cymraeg Gwenno Saunders
Fideo yn Gymraeg a PPT i gyd-fynd
Cyfweliad gyda’r gantores a’r gyfansoddwraig o Gaerdydd sy’n canu nid yn unig yn Gymraeg ond hefyd yn y Gernyweg!
Gweithgaredd: Dyma eich cyfle chi i greu cân bop. Gan gofio felly fod angen meddwl am alaw yn ogystal â geiriau, gofynnwn i chi ganolbwyntio ar saernïo’r geiriau yn y lle cyntaf. Ystyriwch y pwyntiau a ganlyn:
- Sut mae’r ardal lle rydych chi’n byw ac yn mynd i’r ysgol yn cysylltu â chi?
- Ydych chi’n gwybod am ei hanes, ei thraddodiadau, ei henwogion a’i chwedlau?
- Mae sawl ffordd y gallwch ysgrifennu cân am eich ardal
- Gallwch gasglu enwau llefydd ynghyd a chwarae gyda sŵn y geiriau hynny
- Canolbwyntio ar un stori, hanesyn neu chwedl sy’n bwysig i’ch ardal chi
- Portreadu pobl yr ardal, fel mae caneuon fel ‘Penny Lane’ gan y Beatles yn ei wneud (ewch ati i wrando!).
- Oes yna bethau a allai gael eu gwella yn eich ardal? Beth am ddychmygu gwell dyfodol i’r lle rydych chi’n byw ynddo?
Cysylltiadau:
Mae’r fideo hwn yn cysylltu â rhai Samira Negrouche ac Aurélia Lassaque, sydd hefyd yn ddwyieithog. Fel gyda fideo Jonathan Edwards, anogir ffocws ar gymdogaeth.
Adnoddau Cymraeg Ifor ap Glyn
Fideo yn Gymraeg a PPT i gyd-fynd
Cyfweliad gyda Ifor ap Glyn, Bardd, Darlledwr, Awdur ac un o Gymry Llundain.
Trafodaeth am fywyd Ifor a pham y mae cyfieithu yn bwysig.
Gweithgaredd: Dyma bum gair o’r iaith Tsiec. Defnyddiwch nhw mewn ffyrdd dychmygus gan roi eich ystyr eich hunain i’r geiriau hyn. Yna, yn eich cerdd, cynhwyswch y gair ar y diwedd, gan roi cyfle i’r holl ystyron yn y gerdd gyfrannu at oleuo’r darllennydd ar ystyr y gair yn eich meddwl chi.
Cysylltiadau:
Mae hwn yn ymarferiad tebyg i’r un a gyflwynir gan Sampurna Chattarji yn Saesneg.
Adnoddau Cymraeg Grug Muse - Pacio
Fideo yn Gymraeg a PPT i gyd-fynd
Cyfweliad gyda’r bardd, golygydd ac academydd, Grug Muse.
Gweithgaredd:
- Bu’r cyfleoedd i deithio ar draws y byd yn brin dros y flwyddyn ddiwethaf. Beth felly am gofio am drip y buoch chi arno lle’r aethoch chi tu allan i’ch bro?
- Drwy ddefnyddio atgofion, ceisiwch lunio cerdd sy’n dod â lle pell i ffwrdd yn fyw i’r darllenydd. Gwnewch fap meddwl cyn dechrau ysgrifennu er mwyn atgoffa eich hunain o’r lleoliad arbennig.
- Gallwch roi blas o’r lleoliad pellennig yn y gerdd drwy gyfeirio at eiriau penodol o iaith wahanol, enwau ar fwydydd, traddodiadau neu lefydd sy’n creu naws yn y gerdd. Gallwch hefyd ddewis neu beidio i ddisgrifio y daith draw i’r lle sy’n ganolog i’r gerdd.
Adnoddau Cymraeg Rhys Trimble
Fideo yn Gymraeg a PPT i gyd-fynd
Torrydd / Cut-Up Poem
Aneirin Karadog yn sgwrsio efo Rhys Trimble am sut y dechreuodd farddoni, gan gynnwys dylanwadau rap Cymraeg y 1990au a barddoniaeth Oesoedd Canol Cymru i gyfeiliant rythm y ‘pastwn’. Mae’n egluro sut iddo ddod o hyd i’w ddull perfformio ei hun, sy’n cynnwys byrfyfyrio o dameidiau o destunau sy’n bodoli eisoes.
Gweithgaredd: Torrydd
Mae Rhys yn dangos dwy ffordd o wneud cerdd sydd wedi’i thorri’n ddarnau, a ysbrydolwyd gan William Burroughs.
Mae’r dechneg gyntaf yn golygu dethol testun ar-lein a’i ludo i mewn i’r peiriant torri ar-lein. www.languageisavirus.com/cutupmachine.php. O’r testun a gynhyrchir ar hap, mae’n dethol yr ymadroddion sy’n gweithio orau ac yn eu trefnu yn gerdd.
Yr ail dechneg yw defnyddio cylchgronau, siswrn a glud a threfnu tameidiau o destun yn gerdd weledol. Gall y dull hwn weithio mewn un iaith, neu gyda thestunau mewn gwahanol ieithoedd i greu cerdd amlieithog. Mae Rhys yn dangos cymysgedd o Gymraeg a Saesneg
Sampl o waith dysgwyr - Blwyddyn 8 Aberconwy / Llangefni 2021-2022
Ysgolion peilot – wedi arbrofi efo’r prosiect a chreu arddangosfa o waith dysgwyr i’w arddangos yn Pontio, Bangor ym mis Gorffennaf 2022.
Sampl o waith dysgwyr - BOD YN DDYNOL A THU HWNT: COED A'U HIEITHOEDD - Ysgol Friars, Blwyddyn 9 - 11 Tachwedd 2022 - Pontio
BOD YN DDYNOL A THU HWNT: COED A’U HIEITHOEDD
Sut mae coed yn ein cysylltu â llefydd? Sut maent yn gallu ein helpu i feddwl ar draws gwahanol ieithoedd?
Gwahoddwyd grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Friars i edrych ar farddoniaeth am goed mewn Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg. Yr Athro Zoë Skoulding a fu’n gyfrifol am greu ac arwain y digwyddiad, yn rhan o ŵyl Bod yn Ddynol, sef gŵyl genedlaethol y Dyniaethau yn y Deyrnas Unedig, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor. Cefnogwyd y prosiect gan Dyfodol Byd-eang GwE a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau UKRI.
Treuliodd y 27 disgybl ddiwrnod llawn yn Pontio mewn cyfres o weithdai arloesol mewn Ffrangeg, Saesneg a Chymraeg. Ymhlith y gweithdai hyn bu’r disgyblion yn: trafod cerdd Dyrceg mewn cyfieithiad gan Nâzim Hikmet, wedi’i hysgrifennu o safbwynt coeden yn Istanbul; cymryd rhan mewn gweithdy ysgrifennu creadigol drwy fideo gan Samira Negrouche, bardd o Algeria, yn sôn am y coed olewydd yn ei phentref hithau; ac yn mynd am dro o amgylch y tir o gwmpas a meddwl am y coed o’n hamgylch ni. Bu’r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn cyfres ryngweithiol fywiog o weithgareddau perfformio a collage a gyflwynwyd ac a arweiniwyd gan y bardd Cymraeg, Rhys Trimble.
Y gweithgaredd olaf oedd ysgrifennu cerddi neu destunau am ddail go iawn, a fydd yn cael eu dangos yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio yn yr arddangosfa ‘At Eich Coed’ ym mis Mawrth 2023.
Cafwyd sylwadau hynod galonogol gan y myfyrwyr a gwelwyd eu dealltwriaeth ddofn o’r cysylltiadau rhwng yr ieithoedd a’u hawch am ffyrdd newydd ac arbrofol fel hyn ar gyfer defnyddio ieithoedd, gan wneud y cysylltiadau hyn er mwyn bod yn fwy annibynnol a chreadigol eu hunain. Drwy gydol y dydd, daethant yn fwyfwy hyderus wrth iddynt ddefnyddio pob iaith yn greadigol a chael hwyl a datblygu. Roedd hyn yn datblygu ar y sylfeini cryf sydd wedi’u gosod iddynt yn yr ysgol.
Roedd y canlyniad yn anhygoel i ddysgwyr mor ifanc. Dyma enghraifft dda iawn o’r math o brofiadau dysgu sydd yn cefnogi Cwricwlwm i Gymru ac yn cyfrannu at wireddu’r pedwar diben i bob dysgwr. Byddai’r prosiect Creu ar Draws Ieithoedd yn galluogi ysgolion i ddarparu profiadau tebyg yn y dosbarth a thu hwnt.
Fe welwch luniau o’r gweithgareddau a dyfyniadau o sylwadau’r myfyrwyr yn y ddogfen sydd yma.
Sampl o waith dysgwyr - Blwyddyn 8 Friars 2022-2023
Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol
Gweminarau
Dyfodol Byd-eang GwE:30 Tachwedd 2020: Gwneud pob gwers ITM gyfrif: Her mewn ITM (ANG ac athrawon anarbenigol):
Dyfodol Byd-eang GwE25 Ionawr 2021: Paratoi at yr arholiad Siarad TGAU 2021
CSC: Dysgu Cyfunol
Other links
Sianel Youtube a weminarau Joe Dale
Sefydliadau iaith defnyddiol
The Global Futures GwE team is working in partnership with a range of partners.
The different institutes offer all kinds of training opportunities and access to resources. You can sign up to their newsletters to make sure you are kept informed of the latest events.
Routes Into Languages Cymru
Institut Français
Goethe Institute
Conserejía Española
Confucius Institute
The British Council
Linguascope
Association for Language Learning
Adnoddau hyfforddi
Weminar: Datblygu Hyder Wrth Siarad [UG]
Safon A UG: Strategaethau ac adnoddau i godi hyder disgyblion ar gyfer yr arholiad llafar – Ffrangeg Darparwyr: Ariane Laumonier (Institut Français a Phrifysgol Caerdydd) EAS – DP: Weminar 07.03.2022 |
Adalw, Rhyngddalennu a Bylchu yn y Dosbarth ITM: Jennifer Wozniak
Mae pawb ohonom yn gwybod beth yw arferion adalw, rhyng-ddalennu a bylchu ond sut maent yn edrych ar waith yn ein gwersi o ddydd i ddydd ac yn ein cynlluniau dysgu? Bydd y rhesymeg dros adalw, rhyng-ddalennu a bylchu, yn ogystal ag amrywiaeth o enghreifftiau ymarferol, yn cael eu rhannu yn y sgwrs hon. Cyflwynir gan Jennifer Wozniak-Rush, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Dysgu ac Addysgu ac Arweinydd Addysg Arbenigol mewn Dysgu ac Addysgu ac ITM yn The Hollins, Sir Gaerhirfryn, sydd â phrofiad helaeth o addysgu Ffrangeg o CA1 hyd CA4. |
'Let's Talk': Jennifer Wozniak
Os mai i’w siarad yn gyntaf y mae iaith, sut ydych chi’n annog disgyblion i siarad cymaint â phosibl yn yr iaith darged, magu hyder a gwneud i ddisgyblion sylweddoli ei bod hi’n iawn i wneud camgymeriadau? Bydd y sesiwn yn cyflwyno ystod o strategaethau difyr sy’n annog disgyblion i siarad yn ddigymell yn yr iaith darged gyda’r athro/athrawes ac ymysg cyfoedion hefyd. Cyflwynir gan Jennifer Wozniak-Rush, Pennaeth Cynorthwyol ar gyfer Dysgu ac Addysgu ac Arweinydd Addysg Arbenigol mewn Dysgu ac Addysgu ac ITM yn The Hollins, Sir Gaerhirfryn, sydd â phrofiad helaeth o addysgu Ffrangeg o CA1 hyd CA4. |
Adnoddau
Rhwydwaith ITM GwE HWB
Ymunwch â rhwydwaith Hwb ITM GwE ble ceir adnoddau defnyddiol i’r Uwchradd.
Tîm Dyfodol Byd-eang GwE
Tîm Dyfodol Byd Eang GwE
Enwau a manylion cyswllt Tîm Dyfodol Byd-eang GwE
Cylchlythyr
Mae tîm Dyfodol Byd-eang GwE yn cyhoeddi newyddlen bob hanner tymor. Fe’i cyhoeddir ar Fwletin GwE ac ar y dudalen ITM ar wefan GwE. Cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru os hoffech i’r Newyddlen gael ei hanfon atoch yn uniongyrchol.
Partneriaid dyfodol byd-eang
Mae tîm Dyfodol Byd-eang GwE yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod o bartneriaid.
Mae’r gwahanol sefydliadau yn cynnig pob math o gyfleoedd hyfforddiant a mynediad i adnoddau. Gallwch gofrestru am eu newyddlenni er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybod am y digwyddiadau diweddaraf.
The Global Futures GwE team is working in partnership with a range of partners.
The different institutes offer all kinds of training opportunities and access to resources. You can sign up to their newsletters to make sure you are kept informed of the latest events.