Dysgu o Bell – Cynradd

Yn dilyn cyhoeddiad bod ysgolion Cymru i gau diwedd Mawrth bu timau o GwE yn cydweithio gyda chydweithwyr o Estyn a’r consortia eraill ar greu modelau a gweithgareddau i hyrwyddo a chefnogi dysgu o bell. GwE greodd y modelau terfynnol gan eu rhannu drwy gyfarfodydd penaethiaid a chyfarfodydd clwstwr. Bu’r modelau yma yn effeithiol mewn rhoi arweiniad i ysgolion ac yn eu tro yn gyrru ymgysylltu gyda disgyblion a’u rhieni a chreu sylfaen i ysgolion fod yn dysgu o bell yn effeithiol.