Dysgu Cydamserol ac Anghydamserol o Bell – Uwchradd

Mae dysgu ac addysgu cydamserol yn cyfeirio at sefyllfa lle rydyn ni, fel ymarferwyr, a’r dysgwyr yn bresennol ar yr un pryd. Mae dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn enghraifft o hyn. 

Gall dysgu ac addysgu cydamserol hefyd ddigwydd ar-lein. Gelwir hyn hefyd yn ddysgu ac addysgu o bell cydamserol, ac mae hyn yn golygu ein bod yn bresennol ar yr un pryd â’n dysgwyr ond dydyn ni ddim yn yr un lleoliad. Defnyddir fideogynadledda neu LiveChat yn y sefyllfa hon yn aml. 

Mae dysgu ac addysgu anghydamserol o bell yn cyfeirio at sefyllfa lle nad ydyn ni’n bresennol ar yr un pryd neu yn yr un lleoliad â’n dysgwyr. Yn y sefyllfa hon, mae angen i ni ddarparu adnoddau i ddysgwyr y maen nhw’n gweithio trwyddyn nhw yn ystod eu hamser eu hunain.

Mae dysgu ac addysgu anghydamserol o bell yn gallu cynnwys defnyddio:

  • adnoddau ac offer digidol fel fideos, podlediadau a fforymau
  • adnoddau ac offer nad ydyn nhw’n ddigidol, fel adnoddau papur.

Ysgol y Creuddyn

Gwers byw ar drigonometreg i ddosbarth Blwyddyn 10 Set 1. Cyflwynwyd y wers trwy ‘google meet’.

Naratif
Modiwlau

Asesu ffurfiannol

Cwestiynau caeedig

 

Defnyddio gwybodaeth flaenorol

 

Sgaffaldio

Asesu fel dysgu, asesu ar gyfer dysgu ac asesu o ddysgu

Adnoddau

 

Lawrlwytho’r cwbl

Cychwyn y Wers

 

 

 

Eglurhad efo Visualiser

 

 

 

Barn y dysgwyr

 


 

 

 Eglurhad o wefan Whiteboard

 


 

 

Llun Whiteboard

 

 

 

Gwaith Cartref

 

 

 

Pecyn adnoddau ychwanegol

 

 

Trosolwg o’r wers

 

Ysgol Syr Hugh Owen

Disgrifiad o wers Mathemateg Blwyddyn 12 – Pwyntiau arhosol.

Naratif

Disgrifiad o wers Mathemateg Blwyddyn 12 – Pwyntiau arhosol.

Modiwlau

Drilio ac Ymarfer

Atgyfnerthu

Asesu Ffurfiannol

Defnyddio gwybodeath flaenorol

Sgaffaldio

Asesu fel dysgu, asesu ar gyfer dysgu ac asesu o ddysgu

 

Ysgol Tryfan

Defnyddio Google Classroom a Vocaroo i dderbyn gwaith llafar gan ddysgwyr fel ymateb i dasg ‘Mae gen i freuddwyd’.

Naratif

Defnyddio Google Classroom a Vocaroo i dderbyn gwaith llafar gan ddysgwyr fel ymateb i dasg ‘Mae gen i freuddwyd’. Gwaith yn seiliedig ar astudio Martin Luther King gan arwain at gyfleoedd i ddysgwyr leisio eu barn ar agweddau penodol. Y clipiau yn cael eu coladu’n ganolog drwy Google Classroom a dysgwyr yn gallu gwrando ar gyflwyniadau eu cyfoedion. Rhain yn sail i drafodaethau mewn gwersi byw dilynnol.

Modiwlau

Podlediad

Darlledu

Atgyfnerthu

Defnyddio gwybodeath flaenorol

Dysgu seiliedig ar senario

Sgaffaldio

Asesu fel dysgu, asesu ar gyfer dysgu ac asesu o ddysgu

Asesu gan gyfoedion

 

Adnoddau

Ysgol Tryfan

Cynllunio Gwefan Taith Gerdded

Naratif

Cynllunio Gwefan Taith Gerdded

Modiwlau

Testun a Delwedd

Podlediad

Fideos ac Animeiddiadau

Asesu Ffurfiannol

Lleihau llwyth amherthnasol

Defnyddio gwybodeath flaenorol

Cynllunio

Dysgu seiliedig ar senario

Dysgu seiliedig ar broblemau

Cyfarwyddyd wedi ei angori

Sgaffaldio

Asesu fel dysgu, asesu ar gyfer dysgu ac asesu o ddysgu

Rol metawybyddiaeth

Asesu gan gyfoedion

 

 

Adnoddau

Adobe spark page – cliciwch yma i’w agor

Ysgol Syr Hugh Owen

Heriau ysgrifennu 200 gair

Naratif

Heriau ysgrifennu 200 gair

Modiwlau

Testun a Delwedd

Podlediad

Fideos ac Animeiddiadau

Asesu Ffurfiannol

Cynyddu llwyth perthnasol

Cynllunio

Dysgu seiliedig ar senario

Sgaffaldio

Rol metawybyddiaeth

 

 

 

Adnoddau

Adobe spark page – cliciwch yma i’w agor

Ysgol Tryfan

Defnyddio arf Whiteboard.fi i ymgysylltu efo dysgwyr mewn gwersi byw

Naratif

Defnyddio arf Whiteboard.fi i ymgysylltu efo dysgwyr mewn gwersi byw. Rhannu cynnwys/arweiniad mathemategol a chyfle i ddysgwyr ddefnyddio byrddau gwyn rhithiol i ymateb i gwestiwn/tasg. Bydd yr athro/wes yn gallu gweld bwrdd gwyn pob dysgwr gan ganmol neu gywirio camsyniadau yn ôl y gofyn.

Modiwlau

Drilio ac Ymarfer

Atgyfnerthu

Asesu Ffurfiannol

Cwestiynau Caeedig

Lleihau llwyth amherthnasol

Defnyddio gwybodaeth flaenorol

 

Dysgu seiliedig ar broblemau

Sgaffaldio

Asesu fel dysgu, asesu ar gyfer dysgu, ac asesu o ddysgu

 

Adnoddau