Dyletswydd a Hawliau

Ysgol – Ysgol Eifionydd, Dwyfor, Gwynedd
Oed– B7-B9
Iaith – Cymraeg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 1-3 awr
Teitl yr adnodd – Dyletswydd a Hawliau

Disgrifiad o’r adnodd

Stiwardiaeth yw prif ffocws yr adnodd hwn. Mae’r disgyblion yn cael cyfle i drafod pwysigrwydd gofalu am y ddaear o safbwynt crefyddau mawr y byd gan ffocysu yn benodol ar y traddodiad Bwdhaidd. Mae’r deunyddiau yn datblygu dealltwriaeth o’r termau allweddol ac yn cynnwys deunydd darllen Saesneg er mwyn ymarfer medrau trawsieithu’r disgyblion a’u dealltwriaeth o ymateb y Bwdhyddion i’r broblem o wastraff plastig. Ceir cyfle i drafod manteision ac anfanteision ffasiwn cyflym a chynaliadwy. Mae’r awdur yn argymell bod y disgyblion yn ymwybodol o’r darlun mawr o ran safbwyntiau crefyddau mawr y byd cyn ffocysu ar yr ymchwil mewn i’r traddodiad Bwdhaidd ac ailgylchu.

Maes Dysgu a Phrofiad

Y Dyniaethau
Iechyd a Lles
Ieithoedd a Llythrennedd

Medrau Llythrennedd:

Trawsieithu
Datblygu geirfa
Strategaethau darllen
Deall, ymateb a dadansoddi
Eglurder a geirfa
Geirfa, sillafu, gramadeg

Rhifedd
Dealltwriaeth gysyniadol

Cymhwysedd Digidol
Cyfathrebu

Adnoddau

Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.