Cynllun Datblygu Ysgol
Adnoddau i gefnogi ysgolion i adrodd ar gynnydd yn erbyn blaenoriaethau 2019-20 ac i gynllunio cynllun datblygu 2020-21 mewn ymateb i Covid-19.

Adnoddau
Cynnydd blaenoriaethau 2019-20
CDY 2020-21 - Blaenoriaeth dysgu cyfunol
Dyma flaenoriaeth y gall ysgol ei haddasu a’i defnyddio fel rhan o gynllun datblygu ysgol tymor byr tan hanner tymor hydref 2020 neu efallai tan y Nadolig. Mae’n gynllun i gyflwyno a datblygu agweddau o ddysgu cyfunol mewn ysgol. Mae’r cynnwys yn deillio o arweiniad dysgu cyfunol cenedlaethol ac o gynnwys gweithdai GwE cyn gwyliau’r haf. Mae ystyriaeth i agweddau megis cynllunio ar gyfer yr ysgol a’r cartref, rhoi adborth adeiladol a chyfathrebu effeithiol gyda rhieni. Er y bydd disgyblion bellach yn ôl yn yr ysgol ganol Medi mae dysgu cyfunol y parhau i fod yn effeithiol ar gyfer hyrwyddo dysgu annibynnol, sgiliau digidol a chydweithio.
CDY 2020-21 - Model rhesymeg blaenoriaeth dysgu cyfunol
Mae’r flaenoriaeth CDY yma yn debyg o ran cynnwys i’r flaenoriaeth dysgu cyfunol ond y tro yma wedi ei gosod allan ar ffurf model rhesymeg. Gall ysgol addasu a defnyddio’r model yma fel sail i ddatblygu dysgu cyfunol drwy’r ysgol.
CDY 2020-21 - Atodiad Cwrwicwlwm i Gymru
CDY 2020-21 -Blaenoriaeth Lles
Dyma flaenoriaeth y gall ysgol ei haddasu a’i defnyddio fel rhan o gynllun datblygu ysgol tymor byr tan ddiwedd 2020 efallai. Mae’n gynllun i gyflwyno a datblygu agweddau o lles mewn ysgol yn dilyn dychwelyd ar ôl cyfnod anodd. Mae’r cynnwys yn deillio o arweiniad lles cenedlaethol yn o gystal ac arweiniad ar les yn dashfwrdd GwE.
CDY 2020-21 -Cynllunio parhad y dysgu
Dyma flaenoriaeth y gall ysgol ei haddasu a’i defnyddio fel rhan o gynllun i baratoi ar gyfer gwahanol senarios all godi dan amodau Covid. Mae ar ffurf model rhesymeg sydd yn adnabod yr her, y mewnbwn gan yr ysgol ac wedyn yn ystyried gweithredu posib o flaen llaw i baratoi at ddisgyblion neu staff gartref neu ddosbarthiadau cyfan yn ynysu neu’r ysgol gyfan wedi cau.
Dyma fersiwn o’r flaenoriaeth parhau dysgu ar ffurf mwy traddodiadol o CDY. Mae’r fersiwn yma hefyd yn cynnwys ystyriaethau parhau y dysgu os ydi’r pennaeth yn absennol.