Continwwm Trefol-Gwledig

Ysgol – Ysgol Godre’r Berwyn
Oed – CA4
Pwnc – Daearyddiaeth
Iaith – Cymraeg a Saesneg
Amser i orffen y gwaith – 1-3 awr
Uned TGAU – U1 Thema 2

Disgrifiad
Casgliad o adnoddau sy’n ymwneud â’r continwwm trefol-gwledig. Mae’r adnoddau yn cynnig cyfleoedd i drafod canfyddiad o le a chymunedau cynaliadwy. Rhennir tasgau sy’n annog disgyblion i ddefnyddio ystod o ffynonellau i gasglu data ac i ddefnyddio Olwyn Egan i ateb cwestiwn estynedig. Mae’r canllawiau yn annog athrawon a disgyblion i gyfeirio at ofynion y fanyleb, cynllun marcio’r bwrdd arholi ac ateb arholiad enghreifftiol. Mae’r awdur yn cynghori athrawon i sicrhau bod y disgyblion i arwain y dysgu a gwneud y gwaith ymchwil.

Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
Darllen a dadansoddi gwybodaeth

Rhifedd
Ymdrin â rhif – casglu data – arwain at gyfleoedd amrywiol i drin y data

Digidol
Defnyddio gwefannau i ymchwilio i ddata a chwblhau gwaith maes rhithiol