Busnes: ymchwil i’r farchnad
Ysgol – Ysgol Glan y Môr, Dwyfor, Gwynedd
Oed – Blwyddyn 10 ac 11
Iaith – Cymraeg a Saesneg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 7+ awr
Teitl yr adnodd – Busnes: ymchwil i’r farchnad
Disgrifiad o’r adnodd
Dilyniant o weithgareddau sy’n paratoi disgyblion at aseiniad terfynol am gynnal ymchwil i’r farchnad ar gyfer cwmni bwyd. Mae’r adnodd yn cynnwys cyflwyniadau pŵer bwynt a dolenni at wefannau, rhaglenni teledu a phodlediadau defnyddiol. Ceir hefyd canllawiau cofnodi ac ysgrifennu estynedig.
Mae’r awdur yn nodi bod y deunyddiau yn addas ar gyfer cyrsiau BTEC a TGAU. Mae’n argymell y dylid annog y disgyblion i ddewis sut maent am gyflwyno’r gwaith er mwyn ennyn diddordeb yn y gwaith.
Cwrs TGAU – BTEC Busnes U1
Addas ar gyfer TGAU Busnes hefyd

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.