‘Ein Llais Ni’ – Prosiect llafaredd GwE
Nod y prosiect hwn yw datblygu a mireinio addysgeg er mwyn hyrwyddo sgiliau llafaredd ein dysgwyr yma yng Ngogledd Cymru. Bydd yn gylfe i ail-danio a gwreiddio sgiliau siarad a gwrando gynllunio a datblygu’r Gymraeg o fewn Cwricwlwm i Gymru gan ystyried strategaethau dysgu ac addysgu llafaredd rhyngwladol. Bydd hwn yn brosiect ar y cyd â Phrifysgol Bangor, gyda’r Athro Enlli Thomas (Dirprwy Is-Ganghellor Cynorthwyol – Y Gymraeg) sy’n arbenigwr rhyngwladol ar hyrwyddo sgiliau llafaredd a strategaethau addysgu dwyieithog yn arwain yr ymchwil gweithredol.