Y Llais
Ysgol – Ysgol Glan y Môr, Dwyfor, Gwynedd
Oed– Blwyddyn 10 ac 11
Iaith – Cymraeg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 1-3 awr
Teitl yr adnodd – Y Llais
Disgrifiad o’r adnodd
Cyflwyniad pwer bwynt sy’n cyflwyno’r 6 elfen sydd i waith llais yr actor. Mae’r taflenni cofnodi yn helpu’r disgyblion i strwythuro ateb i’r cwestiwn, ‘sut y byddai actor yn dweud y geiriau?’. Mae Tasg 1 yn annog y disgyblion i arbrofi eu hunain ac i astudio clipiau fideo o actorion enwog. Mae’r ail dasg, ‘Dau Wyneb’ gan Manon Steffan Ros, yn canolbwyntio ar ofynion y papur arholiad ac yn annog y disgyblion i adnabod meini prawf llwyddiant, i ymgyfarwyddo gyda’r cynllun marcio ac i hunan asesu eu gwaith. Mae’r awdur yn nodi y byddai trosleisio o gymorth i’r disgyblion, ynghyd â sesiwn o ffrydio byw, er mwyn deall yr elfennau llais.
Cwrs TGAU – Drama U1 a U3
Medrau
Llythrennedd: Datblygu llafaredd y disgybl.

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.