Test – Dysgu Proffesiynol

Mae GwE wedi gweithio gyda’r consortia rhanbarthol eraill i ddatblygu cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol sydd yn cyfuno pob agwedd ar y diwygio ehangach, gan gynnwys Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu, y Gymraeg a’r Bil Trawsnewid Dysgu Ychwanegol. Bwriad y cynnig traws-ranbarthol hwn yw cefnogi holl ymarferwyr ysgolion, a dechreuwyd gweithio gydag Uwch Arweinwyr yn nhymor y Gwanwyn 2021.  Mae gan bob un o’r themâu a geir yma gyflwyniad a recordiad, ynghyd â llawlyfr i gyd-fynd i gefnogi trafodaeth bellach.

Yn ystod y flwyddyn academaidd yma 2021-22, byddwn yn parhau i ddatblygu’r cynnig Dysgu Proffesiynol i gefnogi pob arweinydd canol ac athro gyda ffocws ar y themâu canlynol:

  • Ymgysylltu â fframwaith Cwricwlwm i Cymru
  • Ymgysylltu â’r MDaPh
  • Meddwl am weledigaeth MDaPh
  • Ymgysylltu ag elfennau diwygio ehangach
  • Myfyrdodau ar addysgeg
  • Dylunio cwricwlwm – addysgeg gan gynnwys gwyddoniaeth wybyddol
  • Dylunio cwricwlwm – cynllunio ar gyfer dilyniant ac asesu
  • Dylunio cwricwlwm – rôl ymholi
  • Dylunio cwricwlwm – gwneud cysylltiadau o fewn ac ar draws MDaPh
  • Dylunio cwricwlwm – themâu trawsbynciol, sgiliau cyfannol