Ma Ville (Fy Nhref)
Ysgol – Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
Oed – B9
Iaith – Cymraeg a Ffrangeg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 7+ awr
Teitl yr adnodd – Ma Ville (Fy Nhref)
Disgrifiad o’r adnodd
Rhestr chwarae gynhwysfawr o weithgareddau sy’n datblygu geirfa, gramadeg a medrau llafar disgyblion. Mae’r adnodd yn cynnwys cyflwyniadau, ymarferion a chlipiau fideo sy’n modelu arferion da neu’n rhannu cyfarwyddiadau. Defnyddir ystod eang o gemau a chwisiau fel bod disgyblion yn gallu gwirio’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn rheolaidd. Mae’r brif dasg yn gofyn i ddisgyblion i baratoi sylwebaeth i gyd-fynd â chyflwyniad digidol er mwyn disgrifio ‘Ma Ville’. Rhennir meini prawf llwyddiant a thaflen ar gyfer hunan asesu.
Mae’r uned yn cychwyn trwy ddisgrifio’r dref mae’r plant yn byw ynddi (e.e. beth sydd yno? beth sydd ddim yno? beth sydd ar goll?), mynegi a chyfiawnhau barn am y dref, dweud beth wnaethon nhw yn y dref (Gorffennol) yn ddiweddar, a’r hyn maen nhw’n mynd i wneud yn y dyfodol agos. Cafodd y disgyblion brawf llafar ar hyn. Yn ogystal â hynny, cafwyd gwersi ar ofyn am, a rhoi, cyfarwyddiadau. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio’r Fannod Bendant yn gywir.
Maes Dysgu a Phrofiad
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Celfyddydau Mynegiannol
Medrau Llythrennedd:
Trawsieithu
Datblygu geirfa
Gwrando i ddeall
Eglurder a geirfa
Geirfa, sillafu, gramadeg
Cymhwysedd Digidol
Cyfathrebu
Creu cynnwys digidol
Datrys problemau a modelu

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.