Graddfeydd a Chyfansoddi Alaw bentatonig

Ysgol – Ysgol Glan y Môr, Dwyfor, Gwynedd
Oed– B7-B9
Iaith – Cymraeg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 1-3 awr
Teitl yr adnodd – Graddfeydd a Chyfansoddi Alaw bentatonig

Disgrifiad o’r adnodd

Adnodd sy’n atgyfnerthu sgiliau theori cerddoriaeth (graddfeydd) ac yn arwain at dasg gyfansoddi sy’n bosib ei chwblhau o adref. Mae’r tasgau yn gofyn am ddefnyddio ap sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar y we – <https://musiclab.chromeexperiments.com/Experiments>. Er bod yr adnodd wedi ei anelu at ddisgyblion CA3, gellir ei defnyddio hefyd er mwyn atgyfnerthu dysgu blaenorol yn CA4. Gellir defnyddio’r cyflwyniad i gyflwyno’r cysyniadau mewn gwers sy’n cael ei ffrydio’n fyw neu’n cael ei ddanfon at y disgyblion. I gael y canlyniad gorau mae’n debyg mai cyfuniad o’r ddau fyddai orau. Mae’n syniad rhoi cyfle i’r disgyblion arbrofi gyda’r ap cyn gosod y prif dasgau.

Maes Dysgu a Phrofiad

Ceflyddydau Mynegiannol
Mathemateg a Rhifedd
Iechyd a Lles

Medrau

Llythrennedd: Deall, ymateb a dadansoddi
Rhifedd: Dealltwriaeth gysyniadol, Rhesymu rhesymegol
Cymhwysedd Digidol: Cyfnewid a rhannu gwybodaeth, Creu cynnwys digidol

Adnoddau

Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.