Dysgu Cyfunol yn y Cyfnod Sylfaen

Sgroliwch lawr i waelod y dudalen ar gyfer esiamplau i gyd-fynd â’r model

Dysgu Cyfunol yn y Cyfnod Sylfaen

 

Wrth i fwy o ddysgwyr ddychwelyd i leoliad ffisegol yr ysgol, bydd pob ysgol yn gweithredu mewn cyd-destun tra gwahanol. Hyd y gallwn weld, bydd ysgolion yn parhau i gyfuno dysgu wyneb yn wyneb ag ystod o gyfleoedd dysgu sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu ar hyn oddi ar dir yr ysgol – gelwir hyn yn ddull gweithredu dysgu cyfunol.

O ran y plant iau yng Nghymru, bydd angen iddynt fod yn datblygu ystod o sgiliau dros amser, a fydd yn rhoi modd iddynt ddod yn ddysgwyr annibynnol sy’n gallu dysgu, datblygu a chymhwyso ystod o sgiliau o’r ysgol neu’r lleoliad yn fwyfwy annibynnol.

Wrth i ysgolion ddatblygu eu dull gweithredu eu hunain i fynd ati i ddarparu dysgu cyfunol, mae’n bwysig ystyried yr arferion da hyn:

 

I’r plentyn, dylai unrhyw ddysgu cyfunol:

 

  • Sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei roi i’w cam datblygiad a’u lles wrth gynllunio’r dysgu. Cynnwys cyfleoedd amlwg i ddatblygu eu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol fel rhan greiddiol o ddarpariaeth gyfunol.
  • Cynnwys cyfleoedd i chwarae ac ymchwilio i ddatblygu eu chwilfrydedd naturiol a’u sgiliau datrys problem.
  • Sicrhau bod ystyr a phwrpas i unrhyw ddysgu, a’i fod yn meithrin eu hyder dros amser.
  • Sicrhau bod dysgu yn hybu digon o gyfleoedd i lwyddo.
  • Rhoi cryn sylw i ddatblygu sgiliau llafaredd plant yn benodol.
  • Cydnabod mai’r rhieni yw addysgwyr cyntaf eu plant, a meithrin perthynas ddwyffordd sy’n fwyfwy effeithiol rhwng yr ysgol a’r cartref.

 

I’r ymarferydd, dylai unrhyw ddull gweithredu cyfunol:

 

  • Fod yn hylaw a llwyr ddibynnol ar ddogfennau sy’n ddefnyddiol i symud dysgu’r plant yn ei flaen ar gyflymder sy’n briodol i’w datblygiad.
  • Bod wedi’i wreiddio’n gryf yn egwyddorion dysgu cynnar effeithiol a rhoi sylw i Bedwar Diben y Cwricwlwm newydd.
  • Bod wedi’i gynllunio a’i lunio mewn partneriaeth efo rhieni/gofalwyr a’r plentyn
  • Bod ag ôl meddwl, a chael ei adolygu ar sail dealltwriaeth a geir o bob agwedd ar ddysgu ac addysgu gartref ac yn yr ysgol
  • Bod yn seiliedig ar dystiolaeth gynyddol o waith ymchwil ac ymholi proffesiynol.
  • Sicrhau bod pob rhiant/gofalwr yn gallu cyfrannu’n bositif at daith ddysgu eu plentyn fel bod gan bob dysgwr yr un cyfle i lwyddo. Bod yn ymwybodol o unrhyw rwystrau all fod yn atal rhieni/gofalwyr rhag gweithio gyda’u plentyn gartref, er enghraifft iaith y cartref neu fethu darllen a deall cyfarwyddiadau.
  • Defnyddio llwyfannau a rhaglenni sy’n cefnogi plentyn i ddysgu – yn yr ysgol neu’r lleoliad, ac oddi yno

Yn y Lleoliad Lles y Plentyn a Gweithgareddau â Ffocws

 

  • Gofalu bod dysgu cyfunol yn canolbwyntio ar brofiadau dysgu go iawn a thrwy brofiad, sy’n tynnu ar Bedwar Diben y cwricwlwm newydd fel man cychwyn.
  • Gofalu bod lles y plant wrth wraidd y broses gynllunio.
  • Manteisio ar yr amser wyneb yn wyneb efo’r ymarferydd i ofalu mai’r ymarferydd sy’n hwyluso’r dysgu. Gofalu bod yr addysgu uniongyrchol o ran sgiliau penodol yn atgyfnerthu profiadau dysgu tu mewn a thu allan.
  • Cynllunio cyfleoedd fel bod sgiliau a gyflwynir ar draws y profiadau dysgu yn cael eu cynnwys yn yr ysgol a gartref er mwyn cryfhau ‘ffitrwydd disgyblion i ddysgu’ fel eu bod yn parhau i wneud cynnydd.
  • Sicrhau bod gan bob aelod staff ddealltwriaeth o bwrpas unrhyw weithgareddau chwarae/dysgu gweithredol.
  • Meddwl am yr amgylchedd dysgu yn yr ysgol a’r cartref fel ‘darpariaeth wedi’i chyfoethogi’ i ddisgyblion allu meddwl yn ddyfnach ac ymarfer sgiliau mewn cyd-destunau dysgu go iawn.
  • Bod yn realistig wrth gynllunio gweithgareddau sy’n ‘real/go iawn’ i’r disgybl ac y gellir eu hymestyn yn hawdd i’w hamgylchedd lleol er mwyn sicrhau tegwch i ddysgwyr a’u teuluoedd.

Dysgu Gartref wedi'i gyfoethogi a lles y plentyn

 

  • Defnyddio systemau cyfathrebu arferol yr ysgol i gasglu barn ar yr hyn sy’n llwyddo’n dda, a ddim cystal. Addasu’r cynllunio i fodloni anghenion pob dysgwr yn y ffordd orau.
  • Sicrhau bod pob rhiant/gofalwr yn deall pwrpas unrhyw weithgareddau chwarae/dysgu gweithredol. Dylai ymarferwyr fodelu’r dysgu a rhannu canllawiau cam wrth gam clir â rhieni, ble mae angen.
  • Defnyddio deunyddiau dysgu nad ydynt yn digwydd ar yr un pryd i gyfoethogi’r dysgu gartref, er enghraifft gwneud fideo o ddarllen stori, canu caneuon a gemau/ffeithiau rhif.
  • Darparu adnoddau i ddisgyblion gwblhau tasgau gartref os oes angen, er enghraifft drwy ddarparu darnau rhydd neu ddefnyddiau celf a chrefft.
  • Cynllunio gweithgareddau dysgu ymarferol i ddisgyblion gymhwyso a throsglwyddo eu sgiliau a’u gwybodaeth pan fyddant gartref mewn cyd-destunau ‘go iawn’. Cynnwys sgiliau creadigol, ymchwiliol a chorfforol sy’n manteisio ar amgylchedd cartref y disgyblion.

Adborth a Blaenborth

 

  • Cynnwys amser i siarad efo’r plant am eu dysgu i weld faint maen nhw’n ei ddeall a chynllunio’r camau nesaf.
  • Ymateb i sylwadau a syniadau disgyblion a rhieni i gynllunio ar gyfer profiadau dysgu wedi’u cyfoethogi sy’n cefnogi cynnydd disgyblion.
  • Dathlu dysgu gartref a rhoi sylw i unrhyw gamsyniadau yn yr ysgol. Tynnu sylw at allu cynyddol plant i ddangos agwedd gadarnhaol at ddysgu, gan gynnwys sgiliau beirniadol a chreadigol yn unol â Phedwar Diben y Cwricwlwm i Gymru.
  • Gwneud nodyn o les emosiynol a chorfforol disgyblion drwy sylwi ar lefelau canolbwyntio, agweddau at ddysgu, rhyngweithio cymdeithasol ac annibyniaeth. Gwneud addasiadau priodol ble mae angen.

Cynllunio ar gyfer dysgu

 

  • Rhoi’r Pedwar Diben wrth wraidd y dysgu a’r addysgu gyda lles yn ganolog.
  • Defnyddio gwybodaeth am ddatblygiad y plentyn i gynllunio’r dysgu. Gofalu mai cyfleoedd i chwarae a dysgu drwy brofiadau sy’n parhau i yrru’r broses gynllunio.
  • Canolbwyntio ar gyfleoedd dysgu go iawn sydd i’w cael mewn arferion pob dydd, tasgau ymarferol a thu allan.
  • Cynllunio i hybu ieithoedd, sgiliau cyfathrebu a rhifedd o fewn y profiadau dysgu yn yr ysgol a’r cartref.
  • Ymarferwyr yn cynllunio gweithgareddau yn ofalus ar gyfer meysydd darpariaeth parhaus a rhai wedi’u cyfoethogi sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r sgil benodol sy’n cael ei chyflwyno.
  • Gellir cyflwyno sgiliau TGCh i gyfoethogi’r dysgu. Er hynny, dylai’r pwyslais mwyaf fod ar annog dysgu gweithredol ar gyfer y cyfnod cymharol fyr y bydd y disgyblion yn yr ysgol.
Lawrlwythwch y model dysgu cyfunol

Ystyriaethau dysgu cyfunol

Gweithgareddau darnau rhydd, adnoddau naturiol a'r Nadolig

Esiamplau o weithgareddau

Gweithdy Dysgu Cyfunol