Dysgu Cyfunol yn CA2
Gwahanol fodelau dysgu cyfunol
Cylchdroi Lleoliad

Cylchdroi Unigolyn

Dosbarth Gwrthdro
(Flipped classroom)

Fe ddylai dysgu cyfunol…
- ddechrau gyda gweledigaeth ar gyfer cwricwlwm, dysgu ac addysgu – Beth? Pam? Sut?
- ystyried goblygiadau i les staff a dysgwyr
- ystyried cyd-destun ysgol unigryw a’r rhwystrau sy’n wynebu dysgwyr
- ystyried sut i wneud y defnydd gorau o ddysgu wyneb yn wyneb, ar-lein a dysgu o bell
- fod yn addas i ddysgwyr o wahanol oedran a anghenion, darparu her a gwahaniaethu
- gynnwys un cwricwlwm, sy’n cynnwys profiadau dysgu cyfoethog ac amrywiol
- roi cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer a datblygu eu sgiliau annibynnol yn y dosbarth yn ogystal ag yn y cartref
- gynnwys adborth dysgwr i athro effeithiol yn ogystal ag athro i ddysgwr
- ddefnyddio offer digidol yn effeithiol i gefnogi’r dysgu.
- gynnwys arweiniad a chefnogaeth i rieni wedi ei gyfathrebu’n glir a gydag ymwybyddiaeth o ymrwymiadau teulu / gwaith
HINSAWDD DYSGU HYDER A CHYMHELLIANT DYSGWYR
Yn yr ysgol:
- Defnyddiwch yn gyson eirfa fydd yn datblygu hyder dysgwyr a‘i ddealltwriaeth o sut i fod yn ddysgwr medrus a hyderus e.e. Grym …’eto’, dathlu camgymeriadau, cyfeirio at bwerau dysgu, Meddylfryd Twf /Segur
- Atgyfnerthwch hyn gyda gwersi penodol ar rai neu’r cyfan o’r uchod
- Ymagwedd a naratif cyson gan holl staff yr ysgol.
- Rhowch ddigon o gyfleoedd i’r dysgwyr siarad am eu dysgu a rhannu eu meddwl
Gartref:
- Cefnogi rhieni a rhannu gwybodaeth am strategaethau i helpu eu plentyn ee Meddylfryd Twf / Meddylfryd Segur, canmol ymdrech, dathlu camgymeriadau, Pwerau Dysgu
- Adborth a deialog o bell gan athrawon i atgyfnerthu’r uchod yn gyson
- Cyfleoedd adborth, hunanasesu ac asesu cymheiriaid ar gyfer rhannu sut yn ogystal â beth maen nhw wedi’i ddysgu
ESBONIO A MODELU SGILIAU/SYNIADAU ALLWEDDOL, GWREIDDIO DEALLTWRIAETH DYSGWYR
Yn yr Ysgol:
- Esbonio a modelu syniadau / sgiliau allweddol, gwreiddio dealltwriaeth dysgwyr
- Darparu Deilliannau Dysgu clir
- Trafod modelau a chreu Meini Prawf Llwyddiant ar y cyd
- Arwain ymarfer ac adolygu bwriadus i sicrhau dealltwriaeth o sgiliau newydd.
- Ailymweld ac adolygu yn ôl yr angen
- Rhannwch unrhyw ddysgu newydd yn gamau bach
- Rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer a chymhwyso yn annibynnol er mwyn gwirio dealltwriaeth
Gartref:
- Ymarfer a chymhwyso annibynnol sy’n adeiladu ar yr arweiniad yn yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio awgrymiadau, sgaffaldau, cefnogaeth, wedi’u gwahaniaethu yn ôl yr angen
- Adolygu ac ailymweld – yn annibynnol, gydag arweiniad rhieni neu gefnogaeth ar-lein athrawon
- Defnyddiwch glipiau ffilm wedi’u recordio ymlaen llaw o unrhyw esbonio neu fodelu i ddysgwyr ddychwelyd atynt wrth weithio gartref, ac i alluogi rhieni i’w helpu a’u cefnogi. Defnyddiwch sawl platfform i sicrhau tegwch
ADBORTH - DYSGWR I ATHRO A GWIRIO DEALLTWRIAETH PRESENNOL Y DYSGWR
Yn yr ysgol:
- Adolygu dysgu blaenorol ar ddechrau gwers
- Byrddau gwyn, Padlet
- Cwestiynu i ganfod gwybodaeth flaenorol a chwesiynu lefel uwch
- Deialog
- Trafodaeth un i un 3 munud
Gartref:
- Gweithgareddau ar-lein e.e. Cwisiau, holiaduron, Padlet
- Tasgau Flipgrid i gyfathrebu, rhannu neu grynhoi eu dysgu
- Edrych ar dasgau yn Google Classroom
- Sgwrs dosbarth / grŵp ar-lein e.e Chat yn MTeams
- Negeseuon / sylwadau yn Google Classroom
ADBORTH - ATHRO I DDYSGWR
Yn yr ysgol:
- Adborth dosbarth cyfan i fynd i’r afael â chamsyniadau ac ail ddysgu meysydd allweddol; dysgwyr i wella eu gwaith ar sail yr adborth
- Adborth llafar unigol a deialog
- Trafodaeth un i un 3 munud
Gartref:
- Adborth dosbarth cyfan wedi’i recordio ymlaen llaw i fynd i’r afael â chamsyniadau ac ail ddysgu meysydd allweddol . Gall rhieni hefyd ei weld er mwyn cefnogi.
- Adborth ysgrifenedig – sylwadau yn Google Classroom
HUNAN ASESU AC ADBORTH CYMHEIRIAID
Yn yr ysgol:
- Hunanasesu a gwella gwaith yn dilyn adborth dosbarth neu unigol
- Hunanasesu neu asesu cymheiriaid yn erbyn Deilliannau Dysgu a Meini Prawf Llwyddiant
- Partneriaid Trafod – rhannu meddwl a syniadau, trafod atebion, rhoi cyfarwyddiadau
- Byrddau gwyn bach
Gartref:
- Hunanasesu yn annibynnol yn erbyn Deilliannau Dysgu a Meini Prawf Llwyddiant a rannwyd
- Hunanasesu a gwella gwaith yn dilyn adborth dosbarth wedi’i recordio ymlaen llaw neu adborth llafar neu ysgrifenedig unigol, gyda chefnogaeth rhieni
- Partneriaid Trafod- adborth ar waith ei gilydd yn Google Classroom
Cyfleoedd sy’n codi drwy ddatblygu dulliau dysgu cyfunol :
- Paratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru a datblygu’r sgiliau sy’n rhan annatod o’r 4 diben – Creadigrwydd ac arloesi, Meddwl yn feirniadol a datrys problemau, Effeithlonrwydd personol, Cynllunio a threfnu
- Datblygu cwricwlwm cyfoethog ac ysgogol, yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn ac sy’n ennyn diddordeb
- Datblygu sgiliau allweddol yn drawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd, digidol) a sgiliau ehangach ar draws pob maes
- Cryfhau llais y dysgwr ymhellach
- Cyfle i fyfyrio ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gwblhau ar 12 Egwyddor Addysgegol ac ystyried pa fethodoleg sy’n gweithio orau yn ystod y cyfnod hwn
- Datblygu ymhellach y defnydd o asesu ffurfiannol i ddarganfod y camau dysgu nesaf, gan symud ymlaen mewn camau bach
- Cyfleoedd ar gyfer adborth ac adolygiad llafar o ansawdd – yn y dosbarth, ond hefyd wrth ddysgu o bell.
- Datblygu ymgysylltiad ac annibyniaeth dysgwyr
- Datblygu sgiliau digidol athrawon a dysgwyr ymhellach
- Datblygu perthynas a chydweithrediad rhieni ymhellach i gefnogi dysgu eu plentyn
Adnoddau

Modelau dysgu cyfunol CA2

Gweithdy dysgu cyfunol CA2

Adnoddau - Nadolig ac Enwogion y Castell
