Cymorthyddion

Croeso i’r dudalen ar gyfer datblygiad proffesiynol cymorthyddion. Bwriad y dudalen hon yw eich cyflwyno i Ddosbarth Google a greuwyd o fewn Hwb, ar gyfer hyrwyddo datblygiad proffesiynol cymorthyddion. I’r rhai ohonoch sydd heb weld nac ymuno gyda’n Dosbarth Google, mae rhagflas isod o’r cynnwys.

Mae llawer o adnoddau amrywiol ar gyfer datblygiad proffesiynol o fewn prif feysydd ac is-adrannau y Dosbarth. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys dolenni i hyfforddiant ar lein, deunydd darllen, clipiau fideo, weminarau, cyfarwyddiadau defnyddio arfau digidol, a llawer mwy. Gweler yr esiamplau isod:

Sut i dderbyn côd ar gyfer ymuno gyda’r Dosbarth:

Mae’r côd ar gyfer ymuno gyda’r Dosbarth Google i gymorthyddion wedi ei rannu gyda phenaethiaid y rhanbarth. Gofynnwch i’ch Pennaeth am y côd, neu cysylltwch gyda WendyWilliams@gwegogledd.cymru neu CarysEiriJones@gwegogledd.cymru er mwyn derbyn y côd drwy e-bost, gan nodi eich enw llawn, enw’r Ysgol a’ch Awdurdod Lleol.

Wedi i chi dderbyn y côd, mae angen mewngofnodi i’ch cyfrif Hwb er mwyn cael mynediad at y Dosbarth.

Arweiniad ar sut i ymuno gyda’r Dosbarth:

Mae arweiniad ysgrifenedig ar sut i gael mynediad i’r Dosbarth, ynghyd a throslais fideo ar gael drwy ddilyn y ddolen isod. Mae’r troslais yn esbonio sut i gael mynediad i’ch cyfrif Hwb a chael mynediad i’r Dosbarth Google ei hun. Mae hefyd yn esbonio sut i wneud y defnydd gorau o’r Dosbarth, gan gynnwys y tabiau Ffrwd (Stream) a Gwaith Dosbarth (Classwork).