Cylchfaoedd Ymarfer – Ffitrwydd Aerobig ac Anaerobig
Ysgol – Ysgol Ardudwy, Meirionnydd, Gwynedd
Oed – Blwyddyn 10 ac 11
Iaith – Cymraeg
Amser sydd ei hangen i gwblhau’r gweithgareddau – 1 awr
Teitl yr adnodd – Cylchfaoedd Ymarfer – Ffitrwydd Aerobig ac Anaerobig
Disgrifiad o’r adnodd
Mae’r dasg hon yn addas ar gyfer cyflwyno Cylchfaoedd Ymarfer i’r dysgwyr a’u cynorthwyo gyda’u dealltwriaeth o sut i wella ffitrwydd aerobig ac anaerobig. Cyflwynir y wybodaeth i’r dysgwyr ar ffurf darn darllen, ble mae angen iddynt fynd ati i ddarllen y wybodaeth cyn ymateb i’r cwestiynau sy’n dilyn. Mae’r disgyblion yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy gynllunio sesiwn cynhesu neu ymarfer yn seiliedig ar ddwy astudiaeth achos. Ymhlith y canllawiau i’r disgyblion mae meini prawf llwyddiant, geirfa allweddol a chanllaw strwythuredig a darperi taflen atebion i gydfynd gyda’r dasg darllen a deall. Noda’r awdur ei fod yn bosib cyfuno’r gwaith yma gyda gwers fyw gan ofyn i’r dysgwyr gyflwyno sesiwn cynhesu.
Cwrs TGAU – Addysg Gorfforol U1
Medrau
Llythrennedd: darllen a deall

Adnoddau
Cliciwch ar y teitlau isod i’w ehangu.