Y Gymraeg yn CA2

Adnoddau i gefnogi datblygiad y Gymraeg yn CA2

Adnoddau

Cliciwch ar y teitlau isod i'w ehangu.

Sbardlun

Cyfres o gyflwyniadau PowerPoint ar gyfer ymarferwyr, rhieni a gofalwyr sy'n defnyddio ffotograff fel man cychwyn. Ceir cyfle i ddatblygu sgiliau creadigrwydd, ysgrifennu, darllen, siarad, gwrando ac ymchwilio.

Tasgau Thematig
Siarad a gwrando

Rhestr chwarae yn cynnig syniadau i athrawon fedru mynd ati i ddefnyddio technoleg (Hwb + Flipgrid) i sicrhau bod eu dysgwyr yn parhau i glywed a chael cyfleoedd i ymarfer eu medrau gwrando a siarad Cymraeg. - Cliciwch yma

Darllen

Cwistastig

Adnoddau darllen a deall Microsoft Forms ar gyfer dysgwyr Cymraeg iaith gyntaf yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3. Pwrpas y tasgau yw annog dysgwyr i fwynhau darllen yn y Gymraeg yn ogystal â phrofi a gwella eu gwybodaeth gyffredinol mewn ffordd hwyliog a diddorol.

 

Y Cliciadur

Amrywiaeth o ymarferion darllen a deall. Maen nhw'n seiliedig ar ddeunydd darllen digidol a ddarperir yng nghylchgrawn ar-lein Cynnal, 'Y Cliciadur'.

 

Tasgau Darllen a Deall - Erthyglau Newyddion

Cyfres o adnoddau darllen anllenyddol. Mae'r testunau yn erthyglau newyddion oddi ar wefannau cyfarwydd. Mae’r erthyglau hefyd ar ffurf 'Word' ac fe allwch eu lawr lwytho a'u defnyddio yn ôl eich dymuniad. Anogwch dysgwyr i ddarllen y darnau ac i gwblhau'r cwis sy'n eu dilyn. Mae yna dudalen i gyd-fynd â phob erthygl sy'n cynnwys syniadau am weithgareddau pellach. - Cliciwch yma

 

 

Ail-iaith

Cyfres o adnoddau Cymraeg ar gyfer ysgolion sy'n dysgu Cymraeg ail iaith. Mae enghreifftiau o'r dudalen i'w gweld isod. - Cliciwch yma 

Rhestr o adnoddau

Rhestr o adnoddau Cymraeg ar gyfer Cyfnod Allweddol 2. Mae’r rhestr yn cynnwys adnoddau i gynorthwyo ysgrifennu, darllen a gloywi iaith. Ceir hefyd restr o adnoddau a gweithgareddau ychwanegol sydd ar gael i hyrwyddo Cymraeg yn gymdeithasol.