Cwricwlwm i Gymru

Mae Cymru wedi ymrwymo i agenda diwygio uchelgeisiol er mwyn gwireddu cwricwlwm gweddnewidiol.  Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm sy’n seiliedig ar ddibenion ac mae’r Pedwar Diben wrth wraidd yr holl ddysgu ac addysgu a’r rhain yw’r weledigaeth gyffredin i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.  Rhoddwyd fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yng Nghymru at ei gilydd gan ymarferwyr,  ar gyfer ymarferwyr, a thynnwyd ynghyd arbenigedd addysgol ac ymchwil a thystiolaeth ehangach. Mae fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn rhoi cyfle i bob ysgol yng Nghymru lunio ei chwricwlwm ei hun o fewn dull gweithredu cenedlaethol sydd yn sicrhau lefel o gysondeb.

Pan gyhoeddwyd Canllawiau y Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020, roedd hyn yn dynodi’r cam nesaf o ran diwygio’r cwricwlwm a chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022.  Anogir yr ysgolion uwchradd hynny sydd yn barod i gyflwyno’r cwricwlwm ym mlwyddyn 7 i wneud hynny, ond ni fydd hi’n statudol i weithredu’r cwricwlwm newydd yn ffurfiol tan 2023, gyda’r cyflwyno yn digwydd yn y flwyddyn honno i flynyddoedd 7 ac 8 efo’i gilydd.

Mae GwE wedi gweithio gyda’r consortia rhanbarthol eraill, Estyn a Llywodraeth Cymru i osod y disgwyliadau sydd ar ysgolion a lleoliadau o safbwynt diwygio wrth i ni symud tuag at weithredu’r Cwricwlwm i Gymru yn Cwricwlwm i Gymru: y daith i weithredu’r cwricwlwm. Yn y ddogfen hon, cydnabyddir hefyd yr her y mae Covid-19 yn parhau i’w rhoi i bob ysgol o fewn y strategaeth adnewyddu a diwygio.

Mae gan GwE, sydd yn gweithio mewn partneriaeth â’r chwe Awdurdod Lleol, rôl bwysig i’w chwarae i gefnogi pob ysgol a lleoliad ar draws y rhanbarth wrth iddynt baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Wrth i ni fynd i’r afael â’r cwricwlwm newydd, rydym wedi ceisio cynnwys pob agwedd ar y daith ddiwygio fel nad oes yr un elfen o’r diwygio ehangach yn sefyll ar ei phen ei hun.  Fe’i ystyrir o safbwynt anghenion dysgwyr a gwaelodlin ysgolion a chlystyrau unigol i fod yn cyflawni newid yn unol â disgwyliadau cytûn.

Y bwriad yw defnyddio’r lle hwn ar y wefan i rannu’r dysgu o ran ‘proses’ a ‘chynnyrch’ ar draws y rhanbarth. Rydym yn cydnabod y bydd pob ysgol a lleoliad mewn llefydd gwahanol felly mae’n hanfodol rhannu’r dysgu am y gwahanol gamau yn y broses. O fewn yr adrannau hyn, mae enghreifftiau y mae ysgolion wedi’u creu, yn rhan o’u paratoadau at y cwricwlwm.