Ieithoedd Rhyngwladol – Sector Cynradd

Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol
Cwrs y Brifysgol Agored
Cerdd Iaith
Cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru am gyrsiau hyfforddiant a gwybodaeth am gyllid.
Cliciwch yma i ymweld a safle we Cerdd Iaith
Ysgolion Power Language
Cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru am ragor o wybodaeth a chyfleoedd am gyllid.
Dolen i Ysgolion Power Language:
- Pecynnau Adnoddau i gefnogi’r gwaith o ddysgu ac addysgu IRh mewn ffyrdd trawsgwricwlaidd.
- Fideos, animeiddiadau a dogfennau gwreiddiol.
- Ymdrin â meysydd cwricwlaidd fel Iechyd a Lles, Hanes, Daearyddiaeth, Llythrennedd, Rhifedd, Celfyddydau Mynegiannol a Gwyddoniaeth.
Fideos enghreifftiol – https://powerlanguage.school/resource-packs/
Gweminar Power Language: Paratoi am y cwricwlwm newydd – 02/12/2020:
Cyflwyniad
Cynllunwyr ac Adnoddau Cysylltiedig
Adnoddau ymatebol
Casgliad
Dolenni i Sefydliadau Iaith defnyddiol
Mae’r gwahanol sefydliadau yn cynnig pob math o gyfleoedd hyfforddiant a mynediad i adnoddau. Gallwch gofrestru am eu newyddlenni er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybod am y digwyddiadau diweddaraf.
Routes Into Languages Cymru
Institut Français
Goethe Institute
Conserejía Española
Confucius Institute
The British Council
Linguascope
Association for Language Learning
Deunyddiau hyfforddiant
Byddwch angen bod wedi mewngofnodi i Hwb ac wedi cofrestru i rwydwaith ieithoedd tranmor GwE ar Hwb i weld yr adnoddau. Cliciwch yma.
Dysgu Proffesiynol Dyfodol Byd-eang GwE: Ieithoedd Rhyngwladol / ITM paratoi am y CiG
Diffinio’r cwricwlwm ieithoedd
Manylion: Adnabod elfennau craidd dysgu ac addysgu iaith ac ystyried sut i roi trefn arnynt er mwyn creu cwricwlwm ieithoedd ystyrlon.
Sector cynradd ac uwchradd
20/01/2022
Siaradwr gwadd: Rachel Hawkes
Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust
Dysgu ac Addysgu : Cymorth ac Awgrymiadau Addysgeg
Corffori Ieithoedd Rhyngwladol yn y Cwricwlwm
Dolen i webinar ac adnoddau Power Language: Yr Hen Aifft
Dosbarthiadau Meistr PLN: ystod o ddosbarthiadau tiwtorial yn rhoi sylw i amrywiol dechnegau a syniadau ar gyfer defnyddio Ieithoedd yn greadigol yn yr ysgol. – Cliciwch yma i weld yr adnoddau.
CYFRES GWEMINARAU HAF EAS 2021
Gweminar Ieithoedd Rhyngwladol EAS 1:
DATBLYGU IEITHOEDD RHYNGWLADOL – 01/07/2021
Cyflwyniadau gan ysgolion cynradd Brynbach a Clytha, yn dangos sut maent wrthi’n datblygu Ieithoedd Rhyngwladol yn eu hysgolion. |
Gweminar Ieithoedd Rhyngwladol EAS 2:
DULLIAU YMARFEROL A DIDDOROL I GORFFORI IRh YN Y CYNRADD – 07/07/2021
Cyflwyniadau gan Ysgol Eglwys yng Nghymru Ponthir, Ysgol Millbrook ac Ysgol Eglwys yng Nghymru Osbaston, yn dangos sut maent yn datblygu Ieithoedd Rhyngwladol drwy ddulliau ymarferol a diddorol. |
Gweminar Ieithoedd Rhyngwladol EAS 3:
DULL GWEITHREDU AMLIEITHOG WRTH GYFLWYNO IRh A PHONTIO EFFEITHIOL – 13/07/2021
Cyflwyniadau gan Ysgol Gynradd St Gwladys, Ysgol Gynradd Eglwys yng Nghymru Osbaston ac Ysgol Gyfun Trefynwy, yn dangos sut maent yn defnyddio dull gweithredu amlieithog a phontio effeithiol ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol. |
Ysgol Beddgelert
Ysgol Golftyn
Egwyddorion dysgu ac addysgu ac enghreifftiau ymarfeol
Mae bob adran yn canolbwyntio ar 3 prif egwyddor, ac yn cynnwys ystod o fideos gan ymarferwyr sy’n rhannu eu gwaith yn y dosbarth. Mae hefyd dasg ddarllen ymchwil ac ymarfer.
Cewch sampl o’r adnoddau yn yr adran hon. I gael mynediad i’r set gyfan am ddim, cysylltwch â stephanieelliswilliams@gwegogledd.cymru
Datblygu Amlieithrwydd
Integreiddio Ieithoedd Rhyngwladol yn y Cwricwlwm Cynradd: Pecyn Cychwynnol Ysgolion Arweiniol GwE
Fideo 1
Map Ffordd Clir a Chryno i Gorffori Ieithoedd Rhyngwladol – Lisa Eardley- Ysgol Deganwy, Danae Graham- Ysgol Bryn Deva
Dyma ganllaw cam wrth gam i unrhyw ysgol neu ymarferydd gychwyn ar y daith at gorffori iaith ryngwladol yn y dosbarth. Mae amrywiaeth o enghreifftiau, dulliau dibynadwy ac amrywiaeth o syniadau syml i chi eu dilyn i gychwyn arni ac ennyn diddordeb eich disgyblion a’u cael nhw i ddysgu heb iddynt sylweddoli hynny!
Fideo 2
Ffrangeg ar draws y cwricwlwm – Claire Thompson- Ysgol Golftyn CP School
Mae’r cyflwyniad hwn yn disgrifio fy nhaith i, gyda fy nosbarth Blwyddyn 2, at blethu Ffrangeg drwy’r cwricwlwm. Rwyf wedi amlinellu’r pedwar cam a ddilynais i gyflawni hyn. Rydw i hefyd wedi cysylltu’r pedwar cam â’r testun ‘Out of this World’, gan ‘mod i eisiau rhannu rhai enghreifftiau penodol o weithgareddau. Yn fwy na hynny, rydw i wedi pwysleisio’r ffaith mai dechrau siarad Ffrangeg ydw i, felly os alla’ i wneud, gallwch chithau hefyd!
Fideo 3
Gwreiddio ieithoedd yn y cwricwlwm – Georgina Newnham – St Brigid’s School
Mae’r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar egwyddorion ac arferion yr addysgeg bresennol y gellir ei defnyddio i addysgu ieithoedd. Mae’n edrych hefyd ar fethodolegau, llafaredd a defnyddio adnoddau gwreiddiol.
Fideo 4
Datblygu hyder mewn addysgu iaith ryngwladol yn yr ysgol gynradd – Carole Seaton – Victoria CP School
Dyma rai dulliau yr ydw i wedi’u defnyddio i ddechrau dysgu iaith ryngwladol yn fy ysgol i. Rydw i wedi disgrifio rhai o’r ffyrdd y gallwch chi gymell staff a phlant i gofleidio diwylliant newydd a’i iaith. Rydw i wedi cyflwyno rhywfaint o waith cynllunio a syniadau i chi gael cychwyn arni a gwneud bywyd mor hawdd â phosibl i chi a’ch cydweithwyr gael dechrau ar eich taith iaith.
Fideo 5
Ymgorffori Llafaredd ag Ieithoedd Ychwnaegol mewn Dosbarth Cynradd – Angharad Lloyd – Ysgol Clawdd Offa
Cyflwyniad am gorffori llafaredd gydag iaith ychwanegol yn y dosbarth. Ceir enghreifftiau o sut yr addysgir llafaredd yn Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn, p’un ai yw llafaredd yn ffocws y wers ai peidio, ac awgrymiadau am sut i gynnwys llafaredd mewn gwersi.
Fideo 6
Datblygu amlieithrwydd mewn ysgolion cynradd yng Nghymru – Esyllt Williams Ysgol Beddgelert, Julie Williams Ysgol Tudweiliog
Cyflwyniad ar sut i ddatblygu iaith dramor o fewn y dosbarth.Esiamplau o awaliau arddangos, gemau , gweithgareddau, ymweliadau a thasgau posib wrth ddefnyddio aml iaith.
Fideo 7
Mae’r cyflwyniad yn cynnwys y math o bethau y gellir eu gwneud wrth gyflwyno a datblygu iethoedd rhyngwladol trwy feysydd eraill. Mae llyfr allan o’r pecyn iechyd a lles, ‘Sut ydw i’n teimlo’ wedi cael ei ddefnyddio fel sail i waith posibl.
Ysgol Bryn Deva
Ffrangeg a Pum Ffordd at Les
Diwrnod MDaPh i’r myfyrwyr CaBan
Fideo byr i egluro sut rydym ni fel ysgol wedi gwreiddio Ffrangeg yn ein cwricwlwm gyda chysylltiadau cryf ag agwedd ‘Dal ati i Ddysgu’ y Pum Ffordd at Les. Fel ysgol rydym i gyd bron yn ddechreuwyr yn yr iaith, ac mae hyn yn cyd-fynd ag arwyddair ein hysgol – ‘Dysgu Gyda’n Gilydd am Byth’. |
J’aime les fruits- Ysgol Bryn Deva
Dros gyfnod o bythefnos dysgodd y plant enwau’r ffrwythau gwahanol yn Ffrangeg. Gwnaethant luniau o ffrwythau a’u labelu yn Ffrangeg. Fe wnaethant ymarfer canu’r gân gyda’i gilydd gan roi pwrpas a chyd-destun go iawn i’w dysgu. Cafodd y plant i gyd lawer o hwyl! |
Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig [CLIL] yn yr Ystafell Ddosbarth Gynradd: Enghreifftiau Ymarferol ar Waith
Wrth i athrawon cynradd weithio’n galed i gorffori dysgu iaith mewn cwricwlwm cynradd gorlawn, mae’n hanfodol ein bod ni’n edrych ar ffyrdd dychmygol i gyfoethogi dysgu iaith. Mae’r dull Dysgu Cynnwys ac Iaith Integredig (CLIL) wedi gwreiddio’n dda mewn amryw o wledydd eraill. Mae angen i ni ddysgu ganddynt. Yn y sesiwn, byddwn yn rhannu enghreifftiau ymarferol mewn Sbaeneg o’r pethau yr ydym wedi rhoi cynnig arnynt yn ysgolion Hackney. Cyflwynir gan Bernadette Clinton, sydd wrthi’n gweithredu’r fenter ‘Sbaeneg fel Iaith Gyntaf’ ar draws holl ysgolion Hackney ar gyfer Hackney Education. Mae hi hefyd yn dysgu ar y cyrsiau TAR cynradd a BA Add ym Mhrifysgol Middlesex ac yn Llysgennad Ysgolion y Cyngor Prydeinig. A Raquel Tola Rego, sydd yn dysgu yn Ysgol Gynradd Parkwood yn Hackney, oedd yn allweddol yn yr ysgol drwy lwyddo i ennill statws Ysgol Sbaeneg Ryngwladol ac mae hi wedi arloesi gyda’r dull CLIL yn ei hysgol ei hun ac ar draws Hackney. Mae hi hefyd yn Ymgynghorydd ac yn Llysgennad Ysgolion y Cyngor Prydeinig. |
Weminar: PowerLanguage gwreiddio ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm: COP 26 - 22/11/2021
Cewch archwilio syniadau newydd o Tîm PowerLanguage gan gynnwys adnoddau newydd sy’n gysylltiedig â COP 26!
Does dim ots beth yw eich arbenigedd ieithyddol parthed addysgu iaith ryngwladol neu ail iaith, bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn gyfle i arddangos sut y medr adnoddau PowerLanguage roi arweiniad a chefnogaeth i chi bob cam o’r daith er mwyn eich galluogi chi i gynllunio ar gyfer dysgu ac addysgu ieithoedd rhyngwladol yn eich hysgolion yn hyderus. |
Pontio i'r Cwricwlwm i Gymru - Gillian Campbell-Thow a Rachel Hawkes
DIFFINIO’R CWRICWLWM IEITHOEDD
Manylion: Adnabod elfennau craidd dysgu ac addysgu iaith ac ystyried sut i roi trefn arnynt er mwyn creu cwricwlwm ieithoedd ystyrlon.
Sector cynradd ac uwchradd.
20.01.2022
Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes
Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust.
GWYBODAETH GLIR AC ARFERION YSTYRLON
Manylion: Mae cyflwyno gwybodaeth glir yn sicrhau chwarae teg i bawb, ac mae arferion ystyrlon yn gwneud i’r iaith gydio.
Sector cynradd ac uwchradd.
17/02/2022
Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes
Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust.
RHAN 1
RHAN 2
TROSGLWYDDO: SUT I SICRHAU PARHAD A CHYNNYDD
Sector cynradd ac uwchradd
10.03.2022
Siaradwr Gwadd: Gillian Campbell-Thow
Swyddog Gwella Ieithoedd Modern / Arweinydd Strategol dysgu ac addysgu Iaith ac addysg trwy gyfrwng y Gaeleg yn yr Alban
GEIRFA: EHANGDER A DYFNDER
Manylion: Beth mae’n ei olygu i wybod gair?
Edrych ar weithgareddau i ddatblygu ehangder a dyfnder gwybodaeth eiriol.
(Ni fydd rhai o’r agweddau ar ddyfnder gwybodaeth eirfaol yn rhan o faes gwybodaeth y cynradd, ond bydd y sesiwn yn helpu i ddeall y darlun ehangach).
Sector cynradd ac uwchradd
17/03/2022
Siaradwr Gwadd: Rachel Hawkes
Cyd-gyfarwyddwr NCELP / Cyfarwyddwr Addysg ac Ymchwil Rhyngwladol y Comberton Academy Trust.
Adnoddau
Dolen i rwydwaith Hwb ITM GwE
Cliciwch yma i ymuno â’r rhwydwaith. Bydd rhaid i chi fewngofnodi i Hwb ac ymuno gyad’r rhwydwaith er mwyn gweld yr adnoddau.
Proseictau codi ymwybyddiaeth o iaith
Siop-un-stop ar gyfer adnoddau Ffrangeg
Dyma ddetholiad o weithgareddau i helpu plant ymarfer, dysgu, corffori, ymestyn a mwynhau dysgu Iaith Ryngwladol.
Mae cardiau fflach, matiau geiriau, gemau, caneuon, cyfleoedd i chwarae rhan a chyfle hefyd i blant ymestyn eu dealltwriaeth drwy greu eu hadnoddau eu hunain.
Tîm Dyfodol Byd-eang GwE
Manylion cyswllt ysgolion arweiniol
Newyddlenni
Cyfarfodydd Clwstwr
Partneriaid Dyfodol Byd-eang
Mae’r gwahanol sefydliadau yn cynnig pob math o gyfleoedd hyfforddiant a mynediad i adnoddau. Gallwch gofrestru am eu newyddlenni er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybod am y digwyddiadau diweddaraf.